Mae staff a disgyblion wedi gadael eu marc ar fframwaith yr estyniad newydd yn eu hysgol.
Cynhaliwyd seremoni lofnodi yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt yr wythnos ddiwethaf i nodi diwedd cam cyntaf y gwaith adeiladu ar estyniad newydd yr ysgol.
Cafodd staff uwch, disgyblion, swyddogion, llywodraethwyr a chynghorwyr lleol y cyfle i lofnodi trawst dur sy’n ffurfio rhan o fframwaith yr ychwanegiad newydd i’r ysgol.
Bydd yr estyniad newydd, sydd i fod wedi’i gwblhau erbyn mis Medi 2019, yn galluogi’r ysgol i uno’r adeiladu babanod ac iau ar wahân ar un safle sengl.
Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys parth dysgu hyblyg newydd sbon, wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm Cymru newydd, a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ochr yn ochr â system sain-weledol di-wifr modern a fydd yn galluogi athrawon a disgyblion i gydweithio ar amryw o ddyfeisiau a phlatfformau ar unrhyw sgrin yn yr ysgol.
Mae’r gwaith yn cael ei ariannu 50 y cant gan gronfa Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, gydag arian cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Rwy’n falch iawn o gael nodi cam hwn y gwaith yn Ysgol Gynradd Gwersyllt, ac mae’r staff a disgyblion yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r buddion a ddaw gyda’r estyniad newydd.
“Hoffwn ddiolch i Read Construction am eu gwaith ar y safle hyd yma, ac edrychwn ymlaen at weld y safle ychwanegol wedi’i gwblhau yn 2019.”
Dywedodd Kasia Pugh, Rheolwr Ymgysylltu Read Construction: “Mae Read yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Wrecsam i ddarparu’r cynllun. Rydym wedi ymrwymo i gynnwys y gymuned leol ac yn falch o gael ymgysylltu â’r ysgol yn y cam arwyddocaol hwn o’r gwaith adeiladu.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR