Yr wythnos ddiwethaf, rhoddodd Maer newydd Wrecsam, y Cynghorydd Brian Cameron araith yn Neuadd y Dref wrth iddo dderbyn cadwyni’r swydd am y flwyddyn i ddod.
Dyma drawsgrifiad o araith y maer yn llawn…
“Prynhawn da foneddigion a boneddigesau, cyd Gynghorwyr, Swyddogion a gwesteion arbennig.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddechrau drwy ddiolch i gyd Gynghorwyr am eu cefnogaeth i fy ethol fel Maer am y flwyddyn i ddod.
“Diolch i’r Cynghorydd Ronnie Prince a Sunanda Kapas am eu hymrwymiad fel Maer a Maeres yn ystod y deuddeg mis anodd diwethaf, pan oeddem yn parhau i deimlo effaith pandemig Covid.
“Hefyd, hoffwn ddiolch i breswylwyr Whitegate am ymddiried ynof unwaith eto drwy fy ethol i fod yn Gynghorydd Sir yn yr etholiadau lleol yn ddiweddar, yn fy ngalluogi i fod yn Faer Wrecsam.
“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Graham Rogers am fy nghynnig i a’r Cynghorydd Krista Childs am fy eilio i fod yn Faer Wrecsam am y cyfnod 2022-2023. Mae’n fraint ac yn anrhydedd.
“Hoffwn ddiolch i fy ngwraig Kerry am ei holl gefnogaeth dros y blynyddoedd ac am gytuno i fod yn Faeres a diolch i fy mab Lee am fod yn bresennol heddiw i rannu’r achlysur arbennig hwn gyda ni.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Parchedig Dr Jason Bray am barhau fel Caplan y Maer ar gyfer fy nghyfnod yn y swydd. Diolch Jason am ymuno â ni heddiw.
“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam eisoes wedi derbyn cyllid codi’r gwastad gan Lywodraeth y DU ar gyfer Prosiect Dyfrbont Pontcysyllte. Gobeithio nawr y bydd ail gam y cais Codi’r Gwastad gan Lywodraeth y DU hefyd yn llwyddiannus i helpu Prosiect Porth Wrecsam yma yn y Dref, ynghyd â Chyllid Llywodraeth Cymru.
“Byddwn yn clywed canlyniad y cais Dinas Diwylliant yn fuan. Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol sydd wedi gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Dinas Diwylliant, am eu holl gefnogaeth a gwaith caled. Byddaf yn croesi fy mysedd y bydd Wrecsam yn llwyddiannus ddydd Mawrth nesaf.
“Gwnaethom glywed yr wythnos ddiwethaf hefyd y bydd Wrecsam yn derbyn Statws Dinas fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
“Mae gennym ddigon i’w ddathlu yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd ac mae Kerry a minnau yn edrych ymlaen yn fawr at ein tymor yn y swydd.
“Y tu allan i fy nyletswyddau fel Maer, gobeithio y bydd gennyf dal amser i gefnogi ein tîm pêl-droed gwych. Yn sicr, mae yna amser cyffrous i ddod, gyda’r rhagolygon am ddyrchafiad i Glwb Pêl-droed Wrecsam ar ôl colli o drwch blewyn ar ennill Tlws yr FA yn Wembley ddydd Sul.
“Dymuna Kerry a minnau ddiolch i Dîm y Maer am y cymorth a’r cyngor a roddwyd i ni tra’n Ddirprwy Faer a Dirprwy Faeres. Gwerthfawrogwyd yn fawr ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw eto eleni.
“Hoffwn ddiolch hefyd i holl staff sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau yn ystod amgylchiadau mor anodd.
“Mae bellach yn fy arwain at enwi ein helusennau enwebedig ar gyfer Cronfa Elusennol y Maer ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd oherwydd bod yna gymaint o achosion haeddiannol ac rydym wedi cwrdd â llawer o bobl wych yn ystod ein cyfnod fel Dirprwy Faer a Dirprwy Faeres, sy’n gwneud cymaint o waith gwych i’r achosion hyn. Yr elusennau a ddewiswyd gennyf ar gyfer fy nhymor mewn swydd yw:
- Hosbis Tŷ’r Eos
- Banc Bwyd Wrecsam
- a Dynamig
“Rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd cael fy newis fel Maer a bydd Kerry a minnau yn cynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r preswylwyr hyd eithaf ein gallu.
“Diolch yn fawr iawn.”