Bydd preswylwyr Wrecsam yn cael cyfle i drafod newid hinsawdd mewn sesiwn galw heibio a fydd yn cael ei gynnal yng nghanolfan Tŷ Pawb.
Mae’r sesiwn galw heibio Sgwrs Hinsawdd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r digwyddiad yn darparu gofod hamddenol a chroesawgar i bobl leol gyfarfod, siarad a rhannu eu meddyliau am effeithiau presennol ac effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol yn Wrecsam.
Dyddiad: 14 Rhagfyr 2023
Amser: 3pm – 5pm
Lleoliad: Tŷ Pawb
Yn y Sgwrs Hinsawdd fe fydd yna…
Sgyrsiau hamddenol: Ymuno â chyd aelodau o’r gymuned am drafodaethau ymlaciol am yr hyn sy’n digwydd gyda newid hinsawdd yn Wrecsam.
Ffocws ar y dyfodol: Edrych ar heriau’r dyfodol a chyfleoedd sy’n ymwneud â newid hinsawdd yn ein cymunedau gyda’n gilydd.
Yn agored i bawb: Croeso i bawb! Nid oes angen gwybodaeth ymlaen llaw – dewch â’ch chwilfrydedd a’ch syniadau gyda chi.
Rydym ni’n edrych ymlaen at glywed eich syniadau dros sgwrs a lluniaeth!
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Chefnogwr Hinsawdd: “Mae’r digwyddiad yma’n rhan o’n hymrwymiad i greu gofod i leisiau lleol gael eu clywed am faterion hinsawdd. Rydym ni’n annog preswylwyr Wrecsam i ddod ynghyd i siarad am y newidiadau rydym ni’n eu profi a’r camau cadarnhaol y gallwn eu cymryd.”
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch Decarbonisation@wrexham.gov.uk
Wythnos Hinsawdd Cymru 2023
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn digwydd rhwng 4 a 8 Rhagfyr ac mae’n cynnig cyfle i ni gynnal sgwrs genedlaethol ar newid hinsawdd.
Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 yn cynnwys cynhadledd ar-lein 5 diwrnod yn edrych ar effeithiau newid hinsawdd ar wahanol bobl, grwpiau, sefydliadau a lleoliad, a bydd yn edrych ar sut mae’r manteision sy’n gysylltiedig â pholisïau hinsawdd newydd yn cael eu dosbarthu’n deg ar draws cymdeithas.
Gall unrhyw un sy’n mynd i wefan Wythnos Hinsawdd Cymru gofrestru ar-lein i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen a mynychu’r gynhadledd ar-lein.
Gallwch ddysgu mwy am hyn drwy ddarllen ein blog newyddion diweddar.