Play

Mae Tŷ Pawb yn cynnal sesiynau chwarae am ddim i blant rhwng 5 a 15 oed bob dydd Iau rhwng 4 a 5.30.

Cefnogir y sesiynau gan ein staff o’r Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid, sesiynau mynediad agored fydd y rhain yn y Gofod Celf Defnyddiol.

Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon

Mae’r gofod yn cynnwys adnoddau ar gyfer adeiladu cuddfan, gwneud lluniau ar wal a sesiynau chwarae rhydd dychmygol. Edrychwn ymlaen at weld pa gemau, cymeriadau, caerau a dyfeisiadau fydd eich plant yn eu llunio!

Gall rhai dan 5 fynychu gydag oedolyn.

Dim angen cadw lle, dim ond galw heibio.

Cofrestrwch rŵan

Cofrestrwch rŵan