Efallai eich bod wedi gweld ein darn yn gynharach y mis hwn ar sesiynau cerdded i ferched yn unig yn Queensway.
Rŵan, mae’n tîm Wrecsam Egnïol – drwy’r prosiect Codi Allan a Bod yn Egnïol – yn cefnogi cyfres o sesiynau nofio am ddim i ferched yn unig (16+) yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc, Acrefair.
COFRESTRWCH FI AM RYBUDDION E-BOST GAN YR ADRAN DIOGELU’R CYHOEDD RŴAN!
Mae croeso i bob gallu, ac mae’r sesiynau yn gwbl gynhwysol. Maent yn gyfle gwych i gychwyn nofio gan adeiladu eich hyder mewn sesiynau diogel, i ferched yn unig.
Mae’r sesiynau nofio ar gael yn y bore a fin nos, bob dydd Llun a dydd Iau hyd 25 Gorffennaf.
Mae’r sesiynau yn gyfyngedig – felly gwell cadw lle yn gynnar.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae nofio yn ffordd wych o ddod yn heini ac i gadw’n heini, a bydd y sesiynau hyn yn gyfle gwych i unrhyw ferch nad yw wedi ystyried nofio yn y gorffenno i roi cynnig arni.”
I gadw lle, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Plas Madoc ar 01978 821600.
Rwyf eisio derbyn rhybuddion yn y dyfodol gan yr adran Diogelu’r Cyhoedd
COFRESTRWCH FI RŴAN