Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cyhoeddi sesiynau rhoi gwaed ychwanegol yn y Waun a Wrecsam ym mis Mai.
Os ydych chi’n ffit ac yn iach, ystyriwch roi gwaed, mae’n cael ei ystyried yn siwrnai hanfodol ac mae’n hollbwysig bod stociau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnodau anodd hyn.
Bydd y sesiwn yn Wrecsam yn cael ei gynnal yn Pembroke House ym Mharc Technoleg Wrecsam ar y 7 Mai.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Gallwch archebu lle ar gyfer y sesiwn yma: https://wbs.wales/WrexhamCouncil
Bydd y sesiwn yn y Waun yn cael ei gynnal yn Neuadd y Plwyf ar 1 Mai.
Gallwch archebu lle ar gyfer y sesiwn yma: https://wbs.wales/WrexhamCouncilChirk
Roedd y sesiynau rhoi gwaed diwethaf a gynhaliwyd yn gynharach yn y mis yn hynod o lwyddiannus gyda 150 o fynychwyr a 140 o gyfraniadau wedi eu casglu dros 3 diwrnod, gan olygu bod 420 o fywydau posibl wedi cael eu hachub…canlyniad gwych ac maent yn diolch i bawb a roddodd waed yn ystod y sesiynau.
Dim ond drwy apwyntiad y gellir rhoi gwaed a bydd canllawiau iechyd cyhoeddus o ran cadw pellter cymdeithasol mewn grym. Bydd llai o apwyntiadau na’r sesiynau rhoi gwaed arferol.
Cymerwch olwg ar y fideo sy’n dangos y mesurau a fydd yn eu lle i’ch diogelu chi ac iechyd y staff os ydych yn rhoi gwaed.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19