Mae cynnig gwych i rai dros 60 oed yn Wrecsam wrth i’n Tîm Wrecsam Egnïol drefnu ystod o sesiynau gweithgareddau am ddim i’ch helpu i gadw’n heini a gwneud eich ymarferion.
Cynhelir y sesiynau ym Myd y Dŵr, Queensway, Gwyn Evans, Y Waun, Plas Madoc ac ar-lein hefyd!
Bydd y sesiynau hyn yn rhad ac am ddim am y 12 wythnos gyntaf, yn dechrau ddydd Llun 7fed o Fehefin ac yn gorffen ar y 29ain o Awst. Mae croeso i’n haelodau presennol a rhai sydd ddim yn aelodau.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Mae amrywiaeth o ddewis, o gampfa pobl hŷn, nofio a sesiynau ymarfer grŵp. Does dim angen profiad arnoch i ymuno a bydd y tîm yn eich tywys drwy’r sesiynau ac yn gwneud yn siŵr y byddwch yn mwynhau.
Dyma’r rhesymau pam y dylech chi fynychu ein sesiynau ymarfer corff i bobl hŷn:
- Hybu eich system imiwnedd
- Lefelau is o straen
- Cadw eich annibyniaeth
- Peidio â dioddef poen
- Lleihau’r perygl o afiechyd y galon a strôc
- Lleihau’r perygl o glefyd siwgr math 2, rhai mathau o ganser, iselder a dementia
- Lleihau’r perygl o syrthio
- Cyfarfod ffrindiau newydd!
- Hyrwyddir cadw pellter cymdeithasol drwy ein canolfannau
hylif hylendid dwylo ar gael drwy’r adeilad - Glanhau rheolaidd gan dimau’r canolfannau
- Cwsmeriaid yn glanhau offer ffitrwydd cyn ac ar ôl eu defnyddio
- Systemau un ffordd o fewn y canolfannau
Bydd angen archebu ymlaen llaw drwy ffonio eich Canolfan Hamdden neu drwy e-bostio active60@wrexham.gov.uk i gymryd rhan ar-lein.
Amserlen digwyddiadau isod:
Canolfan Hamdden y Byd Dŵr – 01978 297300 | ||
Dydd Mawrth | 11.00am-12.00pm | Nofio am ddim i bobl 60+ (nid oes angen archebu lle ar gyfer y sesiwn hon) |
Dydd Iau | 12.15pm-1.00pm | Loncian Dŵr |
Dydd Iau | 11.00am-12.00pm | Nofio am ddim i bobl 60+ (nid oes angen archebu lle ar gyfer y sesiwn hon) |
Dydd Iau | 1.15pm-2.00pm | Aerobeg ysgafn |
Dydd Iau | 2.30pm-3.30pm | Sesiwn campfa i bobl 60+ yn unig |
Dydd Gwener | 1.30pm-2.15pm | Tai Chi (TMW – symud er lles) |
Stadiwm Queensway – 01978 355826 | ||
Dydd Mawrth | I DDOD YN FUAN | Sesiwn Beics Trydan |
Dydd Mercher | 2.00pm-3.00pm | Sesiwn campfa i bobl 60+ yn unig |
Dydd Iau | 2.00pm-3.00pm | Pêl-droed Cerdded |
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans – 01978 269500 | ||
Dydd Llun | 9.15am-10.00am | Ymarfer Cylchol Easyline |
Dydd Llun | 10.15am-11.00am | Ymarfer Cylchol Easyline |
Dydd Llun | 10.00am-10.45am | Sesiwn Cerdded |
Dydd Llun | 12.45pm-1.30pm | Sesiwn campfa i bobl 60+ yn unig |
Dydd Llun | 2.30pm-3.15pm | Nofio am ddim i bobl 60+ |
Dydd Iau | 2.30pm-3.15pm | Nofio am ddim i bobl 60+ |
Canolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun – 01691 778666 | ||
Dydd Mawrth | 2.00pm-3.00pm | Nofio am ddim i bobl 60+ (nid oes angen archebu lle ar gyfer y sesiwn hon) |
Dydd Mercher | 12.00pm-12.45pm | Sesiwn campfa i bobl 60+ yn unig |
Dydd Mercher | 10.00am-11.00am | Pêl-droed Cerdded |
Dydd Mercher | 1.30pm-2.15pm | Ymarfer Cylchol yn y Dŵr |
Dydd Gwener | 12.30pm-1.30pm | Nofio am ddim i bobl 60+ (nid oes angen archebu lle ar gyfer y sesiwn hon) |
Canolfan Hamdden Plas Madoc – 01978 821600 | ||
Dydd Llun | 1.00pm-2.00pm | Sesiwn campfa i bobl 60+ yn unig |
Dydd Iau | 9.00am-10.00am | Nofio am ddim i bobl 60+ |
Dydd Iau | 11.30am-12.15pm | Dosbarth yn y Dŵr (yn ystod y tymor yn unig) |
Dydd Iau | 1.30pm-2.15pm | Hyfforddiant Cylchol |
Amserlen Ymarfer Corff Zoom 60+ – anfonwch e-bost i
Dydd Mawrth | 11.00am-11.45am | Dawns 60+ |
Dydd Mercher | 1.00pm-1.40pm | Tai Chi (TMW symud er lles) |
Dydd Iau | 6.00pm-6.45pm | Ioga 60+ |
Mae’r sesiwn wedi ei ariannu’n garedig gan Chwaraeon Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Pwysau Iach Cymru Iach.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF