Mae troseddwyr o ddrws i ddrws yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn ac, yn anffodus, maen nhw’n defnyddio’r sefyllfa sydd ohoni i fanteisio ar bobl ddiamddiffyn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhoi gwybod i Safonau Masnach Wrecsam am nifer o sgamiau yn yr ardal.
Sgamiau diweddar
Yn Rhos ceisiodd ddau ddyn a oedd yn honni bod yn syrfewyr siartredig gymryd arian gan ddyn oedrannus.
Ym Morras cafodd dynes ddiamddiffyn heb deulu bris gormodol ar ôl iddi gysylltu â chwmni gosod erialau. Cymerodd y dynion ei manylion banc a thynnu £200 o’i chyfrif heb ei chaniatâd.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ychydig dros y ffin, mae nifer o bobl wedi derbyn galwadau ffôn gan unigolion yn honni eu bod yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint. Mae’r galwyr yn gofyn am fanylion banc er mwyn derbyn taliad ar gyfer “gwagio biniau du”.
Mae sgamiau o’r fath yn broblem ar draws Prydain; adroddodd y BBC am ddynes 83 mlwydd oed gyda dementia a gafodd ei thwyllo gan ddyn a ymwthiodd i mewn i’w thŷ a mynnu taliad o £220.
Mae’r rhain oll yn enghreifftiau o sut mae’r sefyllfa bresennol yn cael ei defnyddio i roi pwysau ar bobl ddiamddiffyn i wneud penderfyniadau anwybodus sy’n eu gadael ar eu colled.
Cyngor Safonau Masnach Wrecsam
Os ydi cloch eich drws yn canu a chithau ddim yn disgwyl neb, PEIDIWCH ag agor y drws. Os ydych chi’n agor y drws, dywedwch nad oes gennych chi ddiddordeb a chaewch y drws. PEIDIWCH BYTH Â sgwrsio efo’r bobl yma ar garreg eich drws… ffordd hyn ni fyddan nhw’n cymryd eich arian nac yn dod i mewn i’ch cartref, ac mi fyddwch chi’n saff.
Peidiwch byth â datgelu’ch manylion personol na manylion banc/cerdyn os ydych chi’n ansicr. A chofiwch, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn, ein bod ni i gyd yn darged i dwyll mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, felly cymerwch fwy o ofal a gofynnwch i chi’ch hun “ai twyll ydi hwn?”
Mae Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth wedi diweddaru eu tudalennau ymwybyddiaeth o dwyll gyda chyngor ar sgamiau yn ymwneud â COVID-19. Gallwch wirio a ydi rhywbeth yn sgam neu beth i’w wneud os ydych chi neu rywun rydych chi’n adnabod wedi’ch twyllo yma: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/consumer/scams/check-if-something-might-be-a-scam/
Os hoffech chi gyngor ar sgamiau neu roi gwybod am sgam, ffoniwch Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. Maen nhw hefyd yn fwy na pharod i ddarparu cyngor cyffredinol i ddefnyddwyr.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19