Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 6.4.20
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 6.4.20
Y cyngor

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 6.4.20

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 9, 2020 10:57 am
Rhannu
Darllen 8 funud
Covid 19
RHANNU
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (3.4.20).

Negeseuon allweddol heddiw

• Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun cymorth gofal plant i helpu gweithwyr hanfodol yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.
• Byddwn yn parhau i wagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu fel arfer dros gyfnod y Pasg.
• Rydym yn gweithio gyda’r heddlu yn Wrecsam i atal unigolion rhag ymgynnull mewn tafarndai i yfed a chymdeithasu, yn dilyn cais y llywodraeth i bobl aros gartref. Ni fydd Cyngor Wrecsam yn goddef ymddygiad o’r fath a bydd busnesau ac unigolion yn wynebu canlyniadau difrifol os cânt eu canfod yn euog.

Cynnwys
        • Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Gwener (3.4.20).
      • Negeseuon allweddol heddiw
        • Ian Bancroft – Prif Weithredwr
        • Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
      • Meddyliwch am ein plant
      • Cadw pellter cymdeithasol
  • Gofal plant am ddim i weithwyr hanfodol
  • Dim newid i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg
  • Ydych chi’n ystyried ymgynnull mewn tafarn â’ch ffrindiau i yfed a chymdeithasu â’r drws ar glo? Peidiwch.
  • Nodyn Atgoffa – Allai’r grantiau hyn helpu eich busnes?
  • Nodyn Atgoffa – Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
  • Nodyn Atgoffa – Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Meddyliwch am ein plant

Fel y gweddill ohonom, mae plant yn gorfod aberthu llawer iawn o bethau ar hyn o bryd.

Fel arfer, byddent yn mwynhau gwyliau’r Pasg…yn gwneud pethau gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn ymweld â’r parc, yn chwarae pêl ac ati.

Ond eleni, mae’r angen i aros gartref ac achub bywydau wedi newid hynny i gyd.

Felly mae’n werth cymryd munud i gydnabod yr aberth mae ein plant yn ei wneud, ac mor aeddfed y mae’n rhaid iddynt fod wrth iddynt helpu’r wlad i ymladd yn erbyn Covid-19.

Mae plant yn chwarae eu rhan fel y gweddill ohonom a dylem ddiolch iddynt….a rhoi sylw iddynt pryd bynnag y gallwn.

Cadw pellter cymdeithasol

Gyda’r tywydd braf yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd, mae’n werth ailadrodd cyfarwyddiadau’r Llywodraeth.

Arhoswch o leiaf dau fetr i ffwrdd o unrhyw nad ydych chi’n byw â nhw, a dim ond am y rhesymau canlynol y dylech adael y tŷ:

• Siopa am hanfodion sylfaenol megis bwyd.
• Ymarfer corff unwaith y dydd.
• Unrhyw angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu unigolyn diamddiffyn.
• Teithio i’r gwaith ac yn ôl, dim ond pan fo hynny’n hollol angenrheidiol.

Daliwch i gadw pellter oddi wrth eich gilydd. Trwy gadw pellter oddi wrth ein gilydd, rydym yn achub bywydau, ac yn helpu Wrecsam i fod mor ddiogel â phosibl.

Gofal plant am ddim i weithwyr hanfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun cymorth gofal plant i helpu gweithwyr hanfodol yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.

O dan y cynlluniau, bydd cynghorau’n gallu defnyddio cyllid o Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i dalu am ddarparwyr gofal plant cofrestredig i ofalu am blant cyn oedran ysgol gweithwyr hanfodol.

Bydd plant sy’n cael eu hystyried fel rhai agored i niwed yn cael eu cynnwys yn y cynllun.

Bydd y newidiadau yn darparu ar gyfer y tri mis nesaf. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Dim newid i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn parhau i wagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu fel arfer dros gyfnod y Pasg.

Felly os yw eich ‘diwrnod casglu’ ar ddydd Gwener neu ddydd Llun fel arfer, byddwn yn parhau i wagu eich biniau fel arfer ar ddydd Gwener y Groglith a dydd Llun y Pasg… ni fydd y gwyliau banc yn effeithio ar unrhyw beth.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Ydych chi’n ystyried ymgynnull mewn tafarn â’ch ffrindiau i yfed a chymdeithasu â’r drws ar glo? Peidiwch.

Mae ein gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi’i blesio’n arw â’r ymateb cadarnhaol gan y rhan fwyaf o fasnachwyr trwyddedig i orfod cau tafarndai a bwytai yn ddiweddar.

Mae’r busnesau hyn yn gwneud y peth iawn, er gwaetha’r niwed y mae gorfod cau yn ei wneud i’w busnesau.

Mae’r deddfau brys, sydd y tu cefn i’r orfodaeth i gau, wedi cael eu gosod oherwydd y bygythiad digynsail gan Covid-19. Maent yn gwbl hanfodol er mwyn ceisio arafu lledaeniad y feirws.

Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn ymdrin â llif cyson o gwynion am leiafrif bychan o fasnachwyr sydd yn parhau i fasnachu, ac maent wedi rhybuddio y bydd camau yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw un sy’n torri’r gyfraith.

Gall unrhyw eiddo trwyddedig sydd ar agor am fusnes wynebu camau gorfodi – yn cynnwys erlyniad – a cholli eu trwydded i werthu alcohol.

Os ydych yn mynd i’r dafarn, neu’n meddwl mynd yno, meddyliwch eto. Byddwch chithau hefyd yn torri’r gyfraith ac fe allech wynebu cosb benodedig neu erlyniad.

Mae’r Heddlu a Gwarchod y Cyhoedd yn patrolio ac yn edrych i mewn i unrhyw wybodaeth a dderbynnir.

Arhoswch gartref, gwarchodwch y GIG, achubwch fywydau.

Nodyn Atgoffa – Allai’r grantiau hyn helpu eich busnes?

Rydym eisoes wedi talu £6 miliwn i fusnesau lleol.

Os ydych yn talu ardrethi busnes, gall Cyngor Wrecsam ddarparu grantiau o £10,000 i gwmnïau sy’n cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychain.

Darparwyd y cyllid yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r grantiau wedi’u hanelu at fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £12,000.

Mae yna hefyd grant o £25,000 ar gael i fusnesau yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi’u lleoli mewn eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.

Mae’r ddau grant ar gael i gwmnïau sydd ar y gofrestr ardrethi busnes o 20 Mawrth, 2020 yn unig.

I wneud cais, darllenwch y canllawiau ar ein gwefan ac – os ydych yn credu bod eich busnes yn gymwys – llenwch y ffurflen ar-lein.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os ydych am wybod am becynnau cefnogaeth eraill, cysylltwch â’n tîm Busnes a Buddsoddiad ar 01978 667300 neu business@wrexham.gov.uk

Nodyn Atgoffa – Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?

Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.

Nodyn Atgoffa – Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid-19

Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:

• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gan y Prif Weinidog).
• Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth pan fo hynny’n briodol.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Waste Helpwch ni i gynnal ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu’n ddiogel
Erthygl nesaf Covid-19 scams on your doorstep Sgamiau o ddrws i ddrws Covid-19

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English