Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y diweddaraf ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Y diweddaraf ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin…
Y cyngorBusnes ac addysg

Y diweddaraf ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin…

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/13 at 11:29 AM
Rhannu
Darllen 9 funud
Estyn
RHANNU

PROSIECTAU WRECSAM

Ariennir gan Lywodraeth y DU drwy’r rhaglen ‘Ffyniant Bro’; yn ôl ym mis Chwefror fe aethom ati i wahodd sefydliadau i wneud cais am gyfran o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ar gyfer prosiectau yn Wrecsam.  Ac roeddem yn falch o dderbyn dros 100 o geisiadau am gyllid.

Fel cyngor roeddem yn gyfrifol am rannu’r £22,684,205 a ddyfarnwyd i ni i ariannu cynigion sy’n cefnogi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnesau Lleol
  • Pobl a Sgiliau

Mae’r ffigyrau terfynol ar gyfer y prosiectau a gymeradwywyd sy’n ymwneud â Wrecsam yn unig fel a ganlyn:

Ymgeisydd y Prosiect Enw’r ProsiectCyfanswm Cronfa Ffyniant Gyffredin Wrecsam
Ymddiriedolaeth y Tywysog yng NghymruLlwybr at Gyflogaeth – Wrecsam£261,639.00
Gardd Furiog Fictoraidd Erlas Gardd Furiog Fictoraidd Erlas£264,375.00
Ymddiriedolaeth Gymunedol SblashProsiect Sero Net Canolfan Hamdden Plas Madoc£340,000.00
Partneriaeth Parc Caia Mapiau a Mwy£357,586.78
Clwb Criced Parc GwersylltCyfleusterau Cynhwysol Clwb Criced Parc Gwersyllt£500,000.00
Fair Event Management LtdCalendr Digwyddiadau Cymunedol Graddfa Fawr Cynaliadwy ar gyfer Sir Wrecsam£500,000.00
WeMindTheGapDewch i ni newid bywydau 1000 o bobl ifanc yn Wrecsam mewn 1000 o ddiwrnodau, gyda’n gilydd fel cymuned gyda chariad a gwir gyfle.£510,000.00
Hwb Yr Orsedd CyfHwb Yr Orsedd – Canolbwynt Cymunedol Yr Orsedd£574,000.00
Cadwyn Clwyd (yn arwain) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam Cronfa Allweddol Cymunedol Wrecsam£600,000.00
CBSWDarpariaeth cymorth busnes gwell£870,000.00
Rainbow FoundationProsiect Cynhwysiant a Gwytnwch Treftadaeth Gymunedol De Wrecsam£1,215,354.40
CBSWAmgueddfa Bêl-droed Cymru / Amgueddfa Dau Hanner£1,300,000.00
CBSWCronfa Allweddol Cymuned a Lle Wrecsam£1,303,223.00
CBSWCronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Wrecsam£1,303,223.00
Gwyddoniaeth Gogledd CymruDinas Wrecsam: Grymuso Esblygiad Gwyrdd£1,573,750.00
CBSWCronfa Allweddol Grant Cyfalaf a Dichonoldeb Safleoedd ac Adeiladau£1,936,852.00
Canolfan Tennis Wrecsam CyfProsiect Trawsnewid Canolfan Tennis Wrecsam£2,000,000.00
CBSWCynllun Creu Lleoedd Wrecsam£2,146,723.75
Cyfanswm £17,556,726.93

Cafodd y prosiectau eu dewis gan banel a luniwyd o ystod eang o fudd-ddeiliaid ar hyd a lled y gymuned – er enghraifft arweinwyr yn eu maes mewn busnesau lleol a buddsoddiad, partneriaeth leol a chyrff strategol, darparwyr addysg a sgiliau, sefydliadau ffydd a CBSW.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Craffwyd yr holl gynigion o ran sut yr oeddent yn cyd-fynd yn strategol gydag anghenion a blaenoriaethau Wrecsam yn ogystal â’u gallu, eu gallu i gyflawni a gwerth am arian.

Yn amodol ar drafodaethau llwyddiannus, bydd gweddill yr arian yn cael ei ddosbarthu i brosiectau eraill nad ydynt wedi eu datgelu (gan ein bod yn dal mewn trafodaethau) yn ogystal â thalu am gostau gweinyddol rhanbarthol a lleol.

PROSIECTAU GOGLEDD CYMRU

Mae yna brosiectau eraill sydd wedi cyflwyno cais i Awdurdodau Lleol niferus yn ardal Gogledd Cymru sy’n dal i gael eu hasesu. Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar hyd a lled Gogledd Cymru roedd rhaid i brosiectau fod yn strategol er mwyn sicrhau’r gallu i gyflawni a’r effaith mwyaf, gydag isafswm cyfanswm gwerth o £250,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (un ai drwy gais awdurdod unigol neu aml awdurdod). Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hyn unwaith y bydd asesiadau wedi eu cwblhau a phenderfyniadau wedi eu gwneud ar ddyfarnu’r cyllid.

CRONFEYDD ALLWEDDOL

I alluogi busnesau lleol, sefydliadau a chymunedau sy’n ceisio symiau llai o gymorth i gael mynediad at gronfeydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU edrychodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ar sefydlu cronfeydd lleol canolog, yn darparu cyfundrefn gyflwyno cais, cymeradwyo a monitro wedi’i symleiddio.

Mae yna nifer o geisiadau ‘cronfeydd allweddol’ o’r fath ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd wedi eu cymeradwyo. Bydd y cronfeydd canolog hyn yn galluogi busnesau lleol, sefydliadau a chymunedau sy’n ceisio symiau llai o gymorth i gael mynediad at gronfeydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a darparu cyfundrefn gyflwyno cais, cymeradwyo a monitro wedi’i symleiddio. Rydym yn anelu i gael ein proses ymgeisio am gronfeydd allweddol yn weithredol erbyn Medi 2023, a bydd tudalen we y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei diweddaru gyda rhagor o fanylion maes o law – Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gogledd Cymru | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ardaloedd dosbarthu ar gyfer cronfeydd allweddol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Cronfa Allweddol Cymuned a Lle Wrecsam – Creu Cronfa Allweddol i alluogi sefydliadau cymunedol / elusennol llai i gael mynediad at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gan gefnogi prosiectau llawr gwlad sy’n hyrwyddo cymunedau lleol a gwella cyfleoedd i’r bobl sy’n byw yno. Byddai’r Gronfa Allweddol ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer grantiau rhwng £2,000 a £125,000.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Cronfa Allweddol Grant Cyfalaf a Dichonoldeb Safleoedd ac Eiddo – Bydd y Gronfa Allweddol hon yn darparu cyllid a grantiau cyfalaf i lywio safleoedd, adeiladau a datblygu busnes yn Wrecsam. Wedi’i anelu at berchnogion eiddo presennol, darpar ddatblygwyr, busnesau a buddsoddwyr bydd y gronfa allweddol yn darparu cefnogaeth ariannol i gael mynediad at ystod eang o astudiaethau dylunio, dichonoldeb a hyfywedd i lywio dulliau arloesol newydd yn ymwneud ag ailddefnyddio eiddo a lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â safleoedd tir llwyd er mwyn ysgogi mewnfuddsoddiad a hybu economi Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Byddai’r gronfa allweddol hefyd yn darparu grantiau cyfalaf ar gyfer darnau go iawn o waith a chamau gweithredu i’w cyflawni yn y byd go iawn, drwy allbynnau penodol fel y nodir mewn astudiaethau dichonoldeb presennol neu rai a ariennir.  Bydd y grantiau cyfalaf a dichonoldeb yn gofyn am elfen o arian cyfatebol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – darpariaeth cefnogi busnes gwell – Darparu cynllun grant busnes newydd, gydag arian cyfatebol hyd at 50%, (a ariennir fel ad-daliad), gyda chyllid (o hyd at £50,000) ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig sy’n bodoli a chyn iddynt gychwyn sy’n hyfyw yn ariannol. Byddai’r fenter yn annog busnesau i gefnogi eu hunain, tra’n darparu cymorth ariannol tuag at fuddsoddiadau cymwys.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Cronfa Allweddol Pobl a Sgiliau Wrecsam – Creu Cronfa Allweddol i alluogi sefydliadau cymunedol / elusennol llai i gael mynediad at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gan gefnogi prosiectau llawr gwlad sy’n darparu dysgu a sgiliau i fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd, rhwystrau i waith a gwella cyfleoedd ar gyfer y bobl sy’n byw yno. Byddai’r Gronfa Allweddol ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol ar gyfer grantiau rhwng £2,000 a £125,000.

Cadwyn Clwyd a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam Bydd y prosiect hwn yn cefnogi lleoliadau / cyfleusterau / mannau / grwpiau a arweinir gan y gymuned neu sy’n eiddo i’r gymuned i ddatblygu, cryfhau a hybu isadeiledd cymunedol a phrosiectau wedi eu lleoli yn y gymuned. Bydd y Gronfa Allweddol yn cefnogi (i) prosiectau llai £2,000 i £10,000, a (ii) phrosiectau mwy £10,000 £50,000 (gellir ystyried symiau mwy pan all prosiectau ddangos eu bod yn gallu cyflawni manteision niferus ). Bydd mwy o fanylion ar gael yn nes at y dyddiad lansio.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Bydd y prosiectau hyn yn cael effaith gadarnhaol fesuradwy yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu drwy Ddinas Wrecsam. “Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynigion llwyddiannus yn dwyn ffrwyth.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Dementia Community Listening Campaign Helpwch i wella gofal dementia yn Wrecsam – dweud eich dweud!
Erthygl nesaf Wales in Bloom Gwobr aur i Wrecsam yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Road maintenance
ArallY cyngor

Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall

Awst 7, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Adult holding a child's hand
DigwyddiadauY cyngor

Galwad o’r newydd am fabwysiadwyr Cymraeg eu hiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 1, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English