Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwobr aur i Wrecsam yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gwobr aur i Wrecsam yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau
Y cyngorArall

Gwobr aur i Wrecsam yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau

Diweddarwyd diwethaf: 2023/09/13 at 12:03 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Wales in Bloom
RHANNU

Roeddem yn nerfus wrth aros ond rydym wedi cael gwybod ein canlyniad ar gyfer Cymru yn ein Blodau ac mae dinas Wrecsam wedi cipio Gwobr “Aur”.

Gwnaed y cyhoeddiad yn Seremoni Cymru yn ei Blodau yn Ninbych eleni.

Pan ddaeth y beirniaid i Wrecsam bu iddynt ddechrau eu taith yn Holt lle’r oedd y preswylwyr wedi gwneud ymdrech wych i greu argraff ar y beirniaid, ac yna aethant i’r Ystâd Ddiwydiannol i weld y gwaith gwych mae CSFf wedi ei wneud o amgylch eu safle gwastraff gan greu pyllau, cychod gwenyn, gosod paneli solar a hyd yn oed darganfod math o degeirian prin. Oddi yno fe aethant ymlaen i Ysgol Uwchradd Rhosnesni lle gwelsant eu gardd synhwyraidd a rhandir sydd newydd ei greu cyn gorffen yng nghanol y Ddinas.

Ynghyd â bod yn rhan o Gategori’r Ddinas derbyniodd Holt Wobr Aur yn y categori Pentref Mawr yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau 2023.   Dywedodd Bob Campbell o gynllun Gerddi Cymunedol Holt, roedd yn ymdrech wych gan y gymuned y gall y pentref cyfan fod yn falch ohono.  

Roeddent hefyd wedi cystadlu mewn categorïau eraill yng nghynllun Eich Cymdogaeth:  Y Groes – Lefel 4, yn ffynnu, Mynedfa’r Pentref a’r Goedlan – Lefel 5, Rhagorol, Rhandiroedd – Lefel 5, Rhagorol ac fe gawsant Dystysgrif Genedlaethol o Ragoriaeth.

Ynghyd â’r categorïau eraill cafwyd 6 Tystysgrif Cefnogwr Cymunedol Cymru yn ei Blodau, un ohonynt yn mynd i Kevin Whitehead o Ysgol Uwchradd Rhosnesni. Roedd y beirniaid wedi’u synnu â’r Ardd Synhwyraidd yn Ysgol Uwchradd Rhosnesni ac fe nodwyd bod yr ardd yn uchafbwynt yn ystod y daith feirniadu yn Wrecsam yn yr haf. Nododd y beirniaid bod gan Kevin rôl allweddol o ysbrydoli a chefnogi disgyblion, gyda dyluniad a darpariaeth yr ardd hynod.

“Blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer Cymru yn ei Blodau”

Wrth gloi, dywedodd Peter Barton Price, Cadeirydd Cymru yn ei Blodau, ‘Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus eto ar gyfer Cymru yn ei Blodau gyda mwy o gystadlu a’r safonau’n cynyddu’n barhaus.  

“Mae ein beirniaid ac Aseswyr wedi bod yn brysur eleni’n teithio hyd a lled Cymru, gan gyfarfod gydag ystod eang o bobl a grwpiau anhygoel yn ystod eu hymweliadau.   Llongyfarchiadau i chi gyd ar eich llwyddiant a’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni ac yn parhau i’w ddarparu. 

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Hoffwn ddiolch i dîm o staff y Cyngor sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y blodau ar eu gorau a bod canol y Ddinas yn lân a thaclus.  

“Hoffem ddiolch hefyd i Arddwyr Cymunedol Holt, Ysgol Uwchradd Rhosnesni, CSFf a Chasglwyr Sbwriel Wrecsam am eu holl waith caled.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Roedd y ddinas yn fôr o liw ac mae’r cynlluniau plannu wedi cael effaith gadarnhaol iawn gan greu profiad gwych i ymwelwyr sy’n dod i siopa a chymdeithasu neu i’r nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yng nghanol y ddinas yn ystod misoedd yr haf. Mae hefyd wedi gwneud y ddinas yn brofiad mwy golau a chroesawgar i’r nifer o dwristiaid sy’n ymweld â ni o’r DU ac ar draws y byd.

Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb am eu cyflawniadau a’u gwaith diflino ar hyn, gan arwain at ennill gwobr Aur haeddiannol iawn, a’r wobr Enillydd Cyffredinol Gorau yn eu Categori gan feirniaid Cymru yn ei Blodau, a roddodd ganmoliaeth dda iawn i’n gwaith.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen 10 munud yn sbâr? Helpwch ni i ddatblygu canolbwyntiau gofal cymdeithasol yn Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Y diweddaraf ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin…
Erthygl nesaf 20mph Terfyn cyflymder 20mya yn dechrau dydd Sul

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 20, 2026
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English