Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i chi gael dweud eich dweud am ddyfodol ein llyfrgelloedd – mae’r ymgynghoriad yn cau ar 30 Tachwedd.
Hyd yma rydym wedi cael 1000 o ymatebion i’n hymgynghoriad ar Siapio Dyfodol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam.
Ond rydym yn annog unrhyw un nad ydynt wedi cael cyfle i gyfrannu hyd yma i fynegi eu barn.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch lenwi’r arolwg ymgynghori ar-lein neu fynd i’ch llyfrgell leol i nôl copi o’r ddogfen a’r holiadur ‘Siapio Dyfodol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam’.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Rydych wedi bod yn rhoi ein cynigion o dan y chwyddwydr ac mae swyddogion y cyngor wedi gwerthfawrogi’r cyfle i gyfarfod pobl wyneb yn wyneb i egluro ein syniadau a’n hawgrymiadau.
Wrth i ni wynebu rhagor o heriau ariannol bydd gennym benderfyniadau anodd i’w gwneud.
Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, darllenwch y ddogfen ‘Siapio Dyfodol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam’ a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyfle i roi eich barn.
Meddai Shan Cooper, Arweinydd Llyfrgelloedd: “Mae Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn bwysig, felly mae’n hanfodol ein bod yn clywed gan gynifer o bobl ag sydd bosibl.
“Rydw i wrth fy mod bod cymaint ohonoch wedi llenwi’r ffurflenni ymgynghori ac wedi dod i’n cyfarfodydd ond mae ‘na amser o hyd i’r rhai hynny nad ydynt eto wedi cael cyfle i leisio eu barn.
“Rydw i’n annog cymaint o bobl ag sydd bosibl i fynd ar-lein neu i fynd i nôl copi papur o’r papur ymgynghori o’u llyfrgell leol a rhoi gwybod i ni beth maen nhw’n ei feddwl.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN