Rydym am ddarganfod faint o Gymraeg a gaiff ei siarad yn Wrecsam.
Rydym hefyd am ddeall profiadau siaradwyr Cymraeg lleol wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor yn y Gymraeg a sut y defnyddir y Gymraeg bob dydd.
Ein bwriad yw casglu gwybodaeth a barn pobl ddi-Gymraeg, siaradwyr Cymraeg newydd a disgyblion ein hysgolion Cymraeg, er mwyn cael darlun ehangach o sut y defnyddir yr iaith yn Wrecsam.
Byddwn yn cynnal yr ymgynghoriad hwn eto yn 2025 a 2026 i gymharu’r canfyddiadau.
Hoffem gael eich barn a’ch awgrymiadau am beth hoffech ei weld yn yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd pan fydd yn dod i Wrecsam yn 2025, a beth yw eich profiadau o Eisteddfodau blaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, pencampwr y Gymraeg, Cyngor Wrecsam: “Dylai gymryd tua 5-10 munud i lenwi’r manylion, ond bydd eich mewnbwn chi’n amhrisiadwy er mwyn cael darlun o sut rydym ni’n defnyddio’r Gymraeg yn Wrecsam.”
Gallwch gael mynediad at yr arolwg yma