Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dweud eich dweud am y ffordd mae traffig yn symud o amgylch canol y ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dweud eich dweud am y ffordd mae traffig yn symud o amgylch canol y ddinas
Y cyngorArall

Dweud eich dweud am y ffordd mae traffig yn symud o amgylch canol y ddinas

Diweddarwyd diwethaf: 2024/03/04 at 12:29 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
City Centre Traffic
RHANNU

Mae’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sydd ar waith ar hyn o bryd yng nghanol dinas Wrecsam wedi bod ar waith ers rhwng deg ac ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae newidiadau sylweddol wedi bod yn Wrecsam, ei phoblogaeth, y teithiau mae pobl yn eu gwneud a’r ffordd maent yn symud o gwmpas. 

Mae arnom eisiau sicrhau bod canol y ddinas yn gallu ffynnu a datblygu fel bod gennym ddinas sy’n addas i’r dyfodol; yn ogystal â sicrhau ein bod yn gwella’r amgylchedd, cadw’r rhai sy’n defnyddio’r ffyrdd yn ddiogel a chaniatáu i draffig symud yn briodol yng nghanol y ddinas ac o’i chwmpas.  

Mae’n bosibl y bydd rhai ohonoch wedi gweld gwybodaeth am rai o’r newidiadau sy’n cael eu cynnig ar gyfer canol y ddinas, neu hyd yn oed wedi rhoi eich barn drwy nifer o weithdai a gynhaliwyd fel rhan o’n Cynllun Creu Lleoedd.

Er mwyn i bawb allu dweud eu dweud rydym wedi paratoi holiadur Eich Llais y gallwch ei lenwi yma.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Traffig a’r Cynllun Creu Lleoedd

Mae rhan o’r Cynllun Creu Lleoedd yn ymwneud â siwrneiau o fewn ardal ganolog y ddinas, yn arbennig yn ystyried pwyntiau cyrraedd a mynediad i gyrchfannau allweddol gyda chanolbwynt ar ‘deithio llesol’ e.e. cerdded, beicio a mynd ar olwynion (yn defnyddio cadair olwyn neu gymhorthion symudedd) a darparu mynediad diogel, cyfleus a deniadol i bawb. Mae canol Wrecsam yn manteisio ar fod yn gymharol fflat a chompact.

Mae’r pellter o’r Orsaf Gyffredinol yn y gorllewin i Ddôl yr Eryrod yn y dwyrain yn 1.2 cilomedr – neu oddeutu 15 munud i gerdded, ac mae’r mwyafrif o’r prif siopau, cyfleusterau a gwasanaethau wedi eu lleoli o fewn radiws 200m – neu ychydig o funudau i gerdded o ganol y ddinas.  

Er gwaethaf yr amodau ffafriol hyn, mae yna heriau hygyrchedd clir yn Wrecsam, a ragwelir ac union, ac mae’r Cynllun Creu Lleoedd wedi nodi’r canlynol fel prif amcanion ar gyfer gwella:

  • Mynediad i bawb
  • Cael gwared â rhwystrau corfforol a chanfyddiadol ar gyfer symud
  • Cryfhau ansawdd a phrofiad llwybrau rhwng pwyntiau cyrraedd a phrif gyrchfannau.
  • Gwelliannau ar gyfer llywio a chanfod ffordd
  • Gwelliannau ar gyfer isadeiledd beicio (wedi derbyn sylw yn rhannol drwy’r prosiect Teithio Llesol)
  • Adolygu symudiad, rheolaeth cerbydau a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar gyfer rhwydwaith ffordd mwy ymarferol, effeithiol, diogel ac y gellir ei reoli
  • Profi ar gyfer cerbydau trydan yn y dyfodol
  • Adolygu darpariaeth parcio i gwtogi amhariad, lleihau traffig ac annog nifer yr ymwelwyr
  • Ystyried materion hygyrchedd er mwyn cefnogi’r economi min nos

Dywedodd y Cyng Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n bwysig bod traffig yn cael ei reoli’n effeithiol yng nghanol y ddinas ar gyfer gyrwyr a cherddwyr.   Os ydych yn berchen ar fusnes, yn ymweld â chanol y ddinas neu’n gyrru yn y ddinas, yna a fyddech cystal â chymryd amser i lenwi’r ymgynghoriad i wneud yn siŵr fod gennym syniad da o ddisgwyliadau pobl er mwyn sicrhau bod ein hargymhellion yn adlewyrchu barn bawb.”

Dywedodd y Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio, “Gyda chymaint o ymwelwyr yng nghanol y ddinas yn arbennig o dramor, mae’n bwysig bod gennym rwydwaith ffordd diogel y gellir ei reoli i ganiatáu ar gyfer ymwelwyr yn ystod y dydd a min nos.” 

Traffic

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dyfarnu £500,000 i fynd i’r afael ag eiddo gwag yng nghanol y ddinas

Rhannu
Erthygl flaenorol SIARAD CYMRAEG?? SIARAD CYMRAEG??
Erthygl nesaf Freedom Leisure Sesiynau Nofio am Ddim 52 wythnos y flwyddyn o fis Ebrill!

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
housing repairs van
Y cyngor

Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam

Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English