Does dim llawer o bobl mor ffodus â ni’r Cymry sy’n gallu dweud eu bod yn byw mewn gwlad sydd yn meddu ar iaith sydd â chymaint o gefndir hanesyddol. Yn anffodus, wrth i’r amser fynd heibio, mae pwysigrwydd ein hiaith mewn perygl o gael ei golli.
Yn 2016, fe aeth Llywodraeth Cymru i’r afael â’r mater trwy gyflwyno Safonau’r Gymraeg i bob sefydliad cyhoeddus. Y bwriad oedd sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Saesneg.
Ydi wir, mae’r Gymraeg yn ffynnu. Ond mae hi angen eich cymorth.
Er mwyn rhoi cyfleoedd Cymraeg cyfartal i’n preswylwyr Cymraeg, mae’n hanfodol bod y Cyngor yn nodi eu dulliau dewisol o gyfathrebu a chael gafael ar wybodaeth. Gall llenwi’r arolwg yma helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Fe hoffwn annog pob siaradwr Cymraeg i gymryd rhan a llenwi’r arolwg yma. Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous iawn i’r Gymraeg ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y cyfan y gallwn ni i’w datblygu ymhellach.”
Efallai nad yw llenwi’r arolwg yma’n ymddangos yn gyfraniad mawr tuag at wella’r Gymraeg… ond bydd eich ymdrechion chi ynghyd â siaradwyr Cymraeg eraill yn gam mawr ymlaen tuag at ddatblygiad ein hiaith enwog.
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.