Fe ddylech fod wedi derbyn ein Ffurflen Ymholiad Aelwyd yn y post yn ddiweddar. Rydym yn ei anfon bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod manylion pob cyfeiriad yn gywir a’ch bod wedi cofrestru i bleidleisio pan gaiff yr etholiad nesaf ei gynnal.
Os nad ydych wedi cofrestru, ni fydd eich enw ar y ffurflen – os ydych eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf i wneud hynny yw ar-lein www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
Os nad ydych chi’n cofrestru ar-lein, mae dal angen i chi ymateb i’r Ffurflen Ymholiad Aelwyd trwy’r dulliau sydd wedi’u nodi ar y ffurflen’.
Os ydych wedi newid cyfeiriad yn ddiweddar mae gofyn ichi gadw golwg am y ffurflen a gwirio eich manylion. Dengys ymchwil diweddar fod pobl sy’n newid cyfeiriad yn llawer llai tebygol o fod wedi eu cofrestru na’r rhai hynny sydd wedi byw yn yr un cyfeiriad ers amser hir.
Ar draws Prydain, bydd 94% o unigolion sydd wedi bod yn byw yn eu heiddo ers dros 16 mlynedd wedi eu cofrestru, o’i gymharu â 40% o unigolion sydd wedi byw mewn cyfeiriad ers llai na blwyddyn.
Mae eich pleidlais yn bwysig, felly sicrhewch eich bod wedi cofrestru i fwrw’ch pleidlais petai etholiad yn cael ei galw.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN