Bydd rhaglen sinema newydd sbon gan 73 Degree Films yn dechrau fis Medi.
Mae Sinema 73 yn rhaglen sinema a arweinir gan y gymuned. Bob yn ail dydd Iau rhwng mis Medi a’r Nadolig bydd Sinema 73 yn dangos ffilm wahanol, gan gynnig mynediad i sinema annibynnol a rhyngwladol, o’r clasuron i ffilmiau newydd, ynghyd â chystadlaethau ffilmiau byrion, sesiynau holi ac ateb, a mwy.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae 73 Degree Films yn falch o gydweithio â Chanolfan Ffilm Cymru a Chyngor Wrecsam i ddod â rhaglen sinema newydd i Wrecsam. Ers agoriad Tŷ Pawb, bu’n uchelgais fawr gennym i weithredu hyn, ac rydym yn ysu i osod y carped coch a mynd amdani fis Medi! – Robert Corcoran, Cynhyrchydd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o ffilmiau a digwyddiadau, gyda rhywbeth at ddant pawb. Y ffilm agoriadol fydd ‘American Interior’ gan Gruff Rhys, gyda ffilmiau newydd i ddilyn, gan gynnwys ‘High Life’ Claire Denis a ffilm ddogfen am Aretha Franklin, sef ‘Amazing Grace’.
Bydd dangosiad arbennig o ‘28 Days Later’ ar noson Calan Gaeaf, 31 Hydref, ac ym mis Tachwedd bydd fersiwn 1954 o ‘A Star is Born’ yn serennu Judy Garland yn cael ei dangos fel rhan o Dymor Sioeau Cerdd BFI 2019.
Bydd detholiad o ffilmiau byrion yn cael eu dangos ym mhob digwyddiad fel rhan o’r rhaglen. Gall gwneuthurwyr ffilmiau gyflwyno eu ffilmiau nawr am gyfle i ennill ystod o wobrau ar filmfreeway.com/73cinema
Lluniwyd drafft terfynol y rhaglen ym mis Gorffennaf eleni gan bwyllgor o gynrychiolwyr grŵp cymunedol a sawl un sy’n ffan o ffilmiau!
Mae Tocynnau i bob digwyddiad ar gael i’w prynu nawr ar 73cinema.com. Fel arall, mae modd eu prynu wrth y drws (yn amodol ar argaeledd) neu eu cadw yn siop Tŷ Pawb. Mae tocyn tymor llawn ar gael hefyd, gan ganiatáu i’r sawl sydd eisiau mynd i bopeth arbed 25%.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION