Wrth i’r dail ddechrau newid eu lliw, mae Tŷ Pawb wedi cyhoeddi amserlen yr Hydref o Gyngherddau Cerddoriaeth Fyw, ac mae’r rhestr yn edrych yn wych.
Mae’r cyngherddau yn dechrau am 1pm ac yn cael eu cynnal bob dydd Iau. Maent yn para am awr, ac am ddim i fynychu. Maent yn cynnig ystod eang o gerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrin a chlasuron poblogaidd, i ganu gwerin a cherddoriaeth o gyfnod y jas a’r blues.
“Perfformiad cyntaf erioed”
Mae 11 o artistiaid newydd yn rhaglen yr Hydref a digwyddiad arbennig iawn ar 14 Tachwedd lle bydd perfformiad cyntaf erioed o 4 darn newydd o gerddoriaeth ac ysgrifau gan y cyfansoddwr David Subacchi, wedi’u cyfansoddi gan 4 o gerddorion/cyfansoddwyr lleol i ddathlu 10 mlynedd ers dyfarnu Statws Treftadaeth y Byd i Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Y pedwar cyfansoddwr yw Owen Chamberlain, Bruce Davies, Jago Parkyn a Honor Parkinson. Bydd y bardd lleol Aled Lewis Evans hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Rhestr o Artistiaid yr Hydref”
- September 19, Tim Stuart and Ursula Byzdra, Piano and Cello
- 19 Medi, Tim Stuart ac Ursula Byzdra, Piano a Sielo
- 26 Medi, Sue Smith, Piano
- 3 Hydref, Bruce Davies, Piano
- 10 Hydref, Carys Price, Piano
- 17 Hydref, Ian Stopes a David Hopkins, Gitâr a Chlarinet “The Solar Suite”.
- 24 Hydref, Corau Ysgol Gŵyl Gerddoriaeth Wrecsam
- 31 Hydref, Shonah Douglas, bacbibau – Digwyddiad Gwnewch Sŵn Cerddorfa Symffoni Wrecsam.
- 7 Tachwedd, Cantorion St Margaret, Corawl
- 14 Tachwedd, Cyngerdd Safle Treftadaeth y Byd y Draphont. Cyngerdd arbennig o eiriau a cherddoriaeth wedi’u hysgrifennu’n arbennig i ddathlu hanes ac oes Traphont Pontcysyllte.
- 21 Tachwedd, Kate Heaton/Fanny Parker, Cantores a Chyfansoddwr Caneuon
Tachwedd 28, Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd - 5 Rhagfyr, Neuadd Moreton, Offerynwyr
- 12 Rhagfyr, Chris Sims, Piano
- 19 Rhagfyr, KC Valentine, Sioe Nadolig Arbennig
“Gofod sefyll yn unig”
Dywedodd Derek Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori a threfnydd y cyngherddau: “Mae’r digwyddiadau hyn wedi tyfu mewn poblogrwydd i’r fath raddau mai dim ond gofod i sefyll sydd ym mwyafrif ohonynt. Mae’r sioeau’n wych ac rwy’n gobeithio bydd cymaint o bobl â phosib yn galw heibio i weld o leiaf un cyngerdd am ddim, i weld y ddawn gerddorol anhygoel sydd yma yn Wrecsam a’r cyffiniau.
Mae yna gostau yn gysylltiedig â’r cyngherddau hyn ac mae croeso i chi wneud cyfraniad i sicrhau bod y digwyddiad yn parhau. Bydd basged i roi eich cyfraniad ar gael wrth i chi adael yr oriel.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION