Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sioeau cerddoriaeth fyw yn dychwelyd dros dymor yr Hydref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Sioeau cerddoriaeth fyw yn dychwelyd dros dymor yr Hydref
Pobl a lleY cyngor

Sioeau cerddoriaeth fyw yn dychwelyd dros dymor yr Hydref

Diweddarwyd diwethaf: Awst 30, 2019 11:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Sioeau cerddoriaeth fyw yn dychwelyd dros dymor yr Hydref
RHANNU

Wrth i’r dail ddechrau newid eu lliw, mae Tŷ Pawb wedi cyhoeddi amserlen yr Hydref o Gyngherddau Cerddoriaeth Fyw, ac mae’r rhestr yn edrych yn wych.

Cynnwys
  • “Perfformiad cyntaf erioed”
  • “Rhestr o Artistiaid yr Hydref”
  • “Gofod sefyll yn unig”

Mae’r cyngherddau yn dechrau am 1pm ac yn cael eu cynnal bob dydd Iau. Maent yn para am awr, ac am ddim i fynychu. Maent yn cynnig ystod eang o gerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrin a chlasuron poblogaidd, i ganu gwerin a cherddoriaeth o gyfnod y jas a’r blues.

“Perfformiad cyntaf erioed”

Mae 11 o artistiaid newydd yn rhaglen yr Hydref a digwyddiad arbennig iawn ar 14 Tachwedd lle bydd perfformiad cyntaf erioed o 4 darn newydd o gerddoriaeth ac ysgrifau gan y cyfansoddwr David Subacchi, wedi’u cyfansoddi gan 4 o gerddorion/cyfansoddwyr lleol i ddathlu 10 mlynedd ers dyfarnu Statws Treftadaeth y Byd i Draphont Ddŵr Pontcysyllte. Y pedwar cyfansoddwr yw Owen Chamberlain, Bruce Davies, Jago Parkyn a Honor Parkinson. Bydd y bardd lleol Aled Lewis Evans hefyd yn rhan o’r digwyddiad.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

“Rhestr o Artistiaid yr Hydref”

  • September 19, Tim Stuart and Ursula Byzdra, Piano and Cello
  • 19 Medi, Tim Stuart ac Ursula Byzdra, Piano a Sielo
  • 26 Medi, Sue Smith, Piano
  • 3 Hydref, Bruce Davies, Piano
  • 10 Hydref, Carys Price, Piano
  • 17 Hydref, Ian Stopes a David Hopkins, Gitâr a Chlarinet “The Solar Suite”.
  • 24 Hydref, Corau Ysgol Gŵyl Gerddoriaeth Wrecsam
  • 31 Hydref, Shonah Douglas, bacbibau – Digwyddiad Gwnewch Sŵn Cerddorfa Symffoni Wrecsam.
  • 7 Tachwedd, Cantorion St Margaret, Corawl
  • 14 Tachwedd, Cyngerdd Safle Treftadaeth y Byd y Draphont. Cyngerdd arbennig o eiriau a cherddoriaeth wedi’u hysgrifennu’n arbennig i ddathlu hanes ac oes Traphont Pontcysyllte.
  • 21 Tachwedd, Kate Heaton/Fanny Parker, Cantores a Chyfansoddwr Caneuon
    Tachwedd 28, Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd
  • 5 Rhagfyr, Neuadd Moreton, Offerynwyr
  • 12 Rhagfyr, Chris Sims, Piano
  • 19 Rhagfyr, KC Valentine, Sioe Nadolig Arbennig

“Gofod sefyll yn unig”

Dywedodd Derek Jones, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori a threfnydd y cyngherddau: “Mae’r digwyddiadau hyn wedi tyfu mewn poblogrwydd i’r fath raddau mai dim ond gofod i sefyll sydd ym mwyafrif ohonynt. Mae’r sioeau’n wych ac rwy’n gobeithio bydd cymaint o bobl â phosib yn galw heibio i weld o leiaf un cyngerdd am ddim, i weld y ddawn gerddorol anhygoel sydd yma yn Wrecsam a’r cyffiniau.

Mae yna gostau yn gysylltiedig â’r cyngherddau hyn ac mae croeso i chi wneud cyfraniad i sicrhau bod y digwyddiad yn parhau. Bydd basged i roi eich cyfraniad ar gael wrth i chi adael yr oriel.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Byddwch yn ddiogel, byddwch yn barod yng Ngogledd Cymru Byddwch yn ddiogel, byddwch yn barod yng Ngogledd Cymru
Erthygl nesaf Sesiwn Chwarae i’r Teulu AM DDIM I blant 0-5 oed Sesiwn Chwarae i’r Teulu AM DDIM I blant 0-5 oed

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English