Erthygl wadd gan Bartneriaeth Rheilffordd Caer – Amwythig
Mewn datganiad gan Bartneriaeth Rheilffordd Gaer – Amwythig, mynegodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp, bod y Bartneriaeth yn siomedig iawn o glywed y newyddion fod Gorsaf Rhiwabon wedi methu â sicrhau cyllid ar gyfer mynediad i bobl anabl unwaith eto.
Fel rhan o’r cynllun haen ganol Mynediad i Bawb, fe wnaeth Llywodraeth Cymru enwebu nifer o orsafoedd, gyda chefnogaeth arian cyfatebol i’r Adran Drafnidiaeth Cyhoeddus (DfT). Mae cryn dipyn o gefnogaeth leol ar gael ar gyfer Rhiwabon ac mae nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r orsaf yn parhau i gynyddu gyda chynnydd o 7.3% wedi’i nodi yn 2019. Y cynlluniau a ddewiswyd gan DfT oedd ychwanegu lifftiau yng Nghastell-nedd, Grangetown, Pont-y-Pŵl a New Inn a Llanilltud Fawr.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell, ‘er ein bod ni’n amlwg yn siomedig iawn na fydd teithwyr yn elwa o’r cynllun hwn, rydym yn gefnogol iawn o’r newyddion gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ei fod wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru ystyried cyflwyno mynediad i bobl anabl ar unwaith yn y gorsafoedd a fu’n aflwyddiannus drwy eu buddsoddiad uniongyrchol eu hunain gan ddefnyddio’r arian cyfatebol a gynigwyd i Lywodraeth y DU.”
Ategodd, ‘Mae Rhiwabon yn orsaf brysur gyda dwy res o risiau y mae’n rhaid i deithwyr eu defnyddio i gael mynediad at blatfform Caer. Dyma’r unig orsaf ar ein llinell nad yw’n llwyddo i fodloni anghenion teithwyr. Mae twf masnachol a thai cryf yn yr ardal, a dyma’r porth trenau/bysiau i gael mynediad at Langollen a Safle Treftadaeth y Byd ym Mhontcysyllte.
Byddwn yn parhau i gynnig ein cymorth a chefnogaeth i sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei ddarparu.’
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN