Mae siop gwisgoedd ysgol ail-law am ddim newydd bellach wedi agor yn Hwb Lles Wrecsam, gan gynnig ffordd gynaliadwy a chost-effeithiol i deuluoedd baratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.
Bydd y siop ar gael tan fis Medi, gan gynnig adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol.
Mae’r fenter yn galluogi rhieni a myfyrwyr i gael mynediad at wisgoedd, nwyddau ac ategolion ysgol ail-law am ddim. Mae’r dull ecogyfeillgar hwn yn annog ailddefnyddio, yn lleihau gwastraff, ac yn cefnogi teuluoedd sy’n wynebu heriau ariannol.
Mae’r trefnwyr yn diolch o galon i’r ysgolion hael sydd wedi rhoi eitemau, y staff ymroddedig yn yr Hwb Lles am eu cymorth parhaus, ac i’n swyddog Ryan Edge, y mae ei sgiliau trefnu eithriadol a’i gymorth ymarferol wedi bod yn hanfodol i weithrediad esmwyth y prosiect.
Mae’r siop yn gwahodd pob teulu lleol i ymweld â’r Hwb Lles i archwilio’r eitemau sydd ar gael a chyfrannu at ymdrech y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd: “Mae’r siop ail-law yn ein helpu i leihau gwastraff diangen, lleihau allyriadau carbon, a chefnogi’r gymuned leol. Rydyn ni’n annog teuluoedd i wneud defnydd o’r siop cyn mis Medi.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr Gwrth-Dlodi: “Mae hon yn fenter wych a fydd yn helpu teuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol i gael y pethau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf. Lle bo modd, rhowch unrhyw eitemau nad oes eu hangen arnoch chi mwyach er mwyn cefnogi’r gymuned.”
Mae’r Hwb Lles ar agor rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9am a 2pm ar ddydd Gwener ac ar gau ar benwythnosau.




Dewiswch ailddefnyddio a gallwch helpu’r amgylchedd – Newyddion Cyngor Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.