Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf…fyddech chi’n gallu gwneud hyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf…fyddech chi’n gallu gwneud hyn?
Busnes ac addysg

Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf…fyddech chi’n gallu gwneud hyn?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2023 1:30 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf…fyddech chi’n gallu gwneud hyn?
Ar ôl..
RHANNU

Manylion Swydd Wag – Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf x 2 (Tîm Un Pwynt Mynediad)

G04 £21,189 – £21,575 y flwyddyn

37 awr yr wythnos – ystyrir y cyfle i rannu swydd

Lleolir y swydd(i) o fewn y Tîm Un Pwynt Mynediad, Adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sydd yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Aseswyr Gofal Cymdeithasol a mynediad i asiantaethau Trydydd Sector, ac wedi’i lleoli yn Adeiladau’r Goron, Stryt Caer, Wrecsam.

Fel Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf byddwch yn rhan o dîm llawn cymhelliant, cefnogol ac aml-broffesiwn, sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth i bobl sy’n cysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Wrecsam am wybodaeth, cyngor neu gymorth. Fel ymgynghorydd cyswllt cyntaf byddwch yn gwrando ar unigolion er mwyn cael dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig iddynt, yn darparu gwybodaeth a chyngor pwrpasol wedi’u targedu tuag atynt, ac yn gallu adnabod pryd y bydd rhywun angen asesiad manylach gan aelodau ehangach o’r tîm. Gelwir hyn yn sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, lle’r ydych yn nodi canlyniadau ar gyfer yr unigolion.

Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf – YMGEISIWCH RWAN!

Mae gan y Tîm Un Pwynt Mynediad i Oedolion CBSW gysylltiadau gwaith cryf â Hwb Lles Wrecsam ac ystod eang o wasanaethau a sefydliadau mewnol ac allanol a phan mae unigolion yn cysylltu â ni, gallant fod yn sicr eu bod am gael y wybodaeth, y cyngor neu’r cymorth y mae arnynt eu hangen.

Mae rôl yr Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf yn gofyn am sgiliau gwrando ardderchog ac awydd i gefnogi pobl i ddarganfod datrysiadau sy’n cefnogi eu hannibyniaeth. Byddwch yn drefnus iawn ac yn gallu ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd heriol, byddwch yn gallu gweithio ar gyflymder a chanolbwyntio ar ddatrys problemau gan gynnal agwedd gadarnhaol ym mhob sgwrs drwy fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar gryfderau yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Bydd heriau newydd bob dydd a bydd yn rhaid i chi fod yn gryf a chanolbwyntio ar ddatrys problemau. Yn gyfnewid, byddwch yn cael eich cefnogi i fynychu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a byddwch mewn cyswllt rheolaidd ag ystod eang o wasanaethau a sefydliadau i sicrhau eich bod yn gallu darparu “Beth sy’n Bwysig” i’r unigolyn.

Bydd gennych gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a bod mewn swydd lle cewch yr holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd arnoch eu hangen, yn cynnwys cefnogaeth reoli ddyddiol a manteisio ar delerau ac amodau ardderchog. Mae’r swydd yn gofyn am fewnbynnu data ac felly byddai sgiliau cyfrifiadurol a phrofiad gweinyddol o fantais. Darperir hyfforddiant systemau.

Mae’r Adran wedi cyflwyno rhaglen ‘Grow Your Own’ yn ddiweddar, sy’n rhoi cyfle i weithwyr weithio tuag at ennill cymhwyster Asesydd Gofal Cymdeithasol, Gwaith Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle yma, edrychwch ar y swydd-ddisgrifiad llawn ar ein gwefan.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9 Ebrill.

Ymgynghorydd Cyswllt Cyntaf – YMGEISIWCH RWAN!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://saas.zellis.com/wrexham/wrl/pages/vacancy.jsf?latest=01006292&language=cy”] YMGEISIWCH RWAN! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Bore Coffi Wythnos Derbyn Awtistiaeth – 27 Mawrth
Erthygl nesaf Wrexham Council jobs Asesydd Gofal Cymdeithasol…allwch chi wneud y swydd hon?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English