Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith adnewyddu Adeiladau’r Goron yn ennill gwobr genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Gwaith adnewyddu Adeiladau’r Goron yn ennill gwobr genedlaethol
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Gwaith adnewyddu Adeiladau’r Goron yn ennill gwobr genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 21, 2022 4:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
crown buildings
RHANNU

Mae Adeiladau’r Goron a adnewyddwyd ar Stryt Caer, Wrecsam, wedi ennill Gwobr Ystadau Cymru. Mae’r gwobrau Ystadau Cymru blynyddol yn ddathliad o reoli asedau ar y cyd yn llwyddiannus ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Mae’r cynllun wedi ennill y wobr yn benodol ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol y prosiect yn ogystal â bod yn enillwyr cyffredinol, hefyd!

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Roedd adnewyddu Adeiladau’r Goron yn brosiect dylunio ac adeiladu 2 gam ar gyfer adnewyddu ac ymestyn adeilad 1960au 4 llawr y cyngor. Mae bellach yn le ar gyfer holl staff gofal cymdeithasol ac addysg, yn darparu gwasanaethau plant ac oedolion di-dor trwy greu Canolbwynt Lles newydd ar lawr gwaelod yr adeilad.

Cwblhawyd y prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae wedi gwella perfformiad ynni’r adeiladau yn sylweddol o EPC D i EPC A, sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng carbon wrth ymestyn oes y strwythur dros 50 mlynedd ychwanegol a hefyd gwneud y mwyaf o’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard: “Mae prosiect Adeiladau’r Goron yn sefyll allan yn ein hymrwymiad i’n dyhead Net Sero – gan drosglwyddo cyfleuster 1960au aneffeithlon sydd wedi dyddio i swyddfa fodern. Mae’r gwaith adnewyddu wedi helpu i ostwng y galw am wres 66% a gostyngiad pellach o 25% yn y galw am ynni o’r gosodiadau trydanol. Hoffwn ddiolch i’n dylunwyr, contractwyr a phartneriaid, mae’n brosiect gwych, ac yn un rydym yn falch iawn ohono fel cyngor. Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl Swyddogion a fu’n ymwneud â’r prosiect o’r cychwyn”

Dywedodd llefarydd o Alex Read Construction: “Mae Read yn falch iawn o fod yn rhan o’r Cynllun Adeiladau’r Goron sy’n dangos gwir ymdrech tîm, yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio un o brif asedau cyfredol Wrecsam. Gyda dwy ran o dair o asedau a fydd wedi eu hadeiladu yn 2030 yn bodoli heddiw, mynd i’r afael â’r argyfwng carbon trwy ailosod  / adnewyddu yw’r her fwyaf mae’r diwydiant yn ei wynebu wrth gyrraedd Sero Net. Wedi wynebu’r her, rydym yn falch o gefnogi Wrecsam i ddechrau ymdrin â’r her a rhannu eu profiadau er budd rheolwyr portffolio eraill.”

Mae’r Canolbwynt Lles, ar lawr gwaelod yr adeilad yn darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, trydydd sector a chymunedol integredig; gan wella mynediad at wybodaeth a chyngor a darparu atebion ataliol ac amgen i ofal a chymorth mewn amgylchedd diogel, gyda chyfleusterau hygyrch ar gyfer bob oedran a gallu.  I gael mwy o wybodaeth am y Canolbwynt Lles ewch i webfan

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ukrainian guests in at Wrexham Council event Staff y Cyngor yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin y Nadolig yma
Erthygl nesaf Tŷ Pawb i dderbyn grant gan y Gronfa Gelf Tŷ Pawb i dderbyn grant gan y Gronfa Gelf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English