Fel y gwyddoch mae’n siŵr mae llawer o’r DU yn disgwyl gwyntoedd cryf ar ddydd Gwener (Ionawr 24), wrth i storm Éowyn cyrraedd.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i wasanaethau’r cyngor drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r blog newyddion hwn.
Yn y cyfamser, dyma nodyn atgoffa am sut i adrodd am faterion…
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:
- (24 wr) 01978 298989
- Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk
Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
Casgliadau bin
Yn ystod tywydd gwyntog, sicrhewch fod eich cynwysyddion ailgylchu yn ddiogel i atal deunyddiau rhag chwythu o gwmpas.
Ac os yw’n ddiwrnod eich bin, ewch â’r cynwysyddion yn ôl i mewn cyn gynted â phosibl ar ôl eu casglu.
Diolch.