Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Erlyniad am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Erlyniad am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro
Y cyngor

Erlyniad am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 24, 2025 8:55 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Erlyniad am fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Stop Dros Dro
RHANNU

Mae perchennog tir Pentre Fron Road, Coedpoeth wedi cael ei erlyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’i orchymyn i dalu dirwy o £480, ynghyd â chostau o £1,260 a gordal o £192 ar ôl parhau â gwaith datblygu anawdurdodedig yn groes i ofynion Hysbysiad Stop Dros Dro.  

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno Hysbysiad Gorfodi a Hysbysiad Stop ac mae’n parhau i fonitro’r safle am unrhyw achosion pellach o fynd yn groes i reoliadau cynllunio.    

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd:  “Rydym yn cymryd methiant i gydymffurfio â rheolau cynllunio, gan gynnwys methu â chydymffurfio â Hysbysiadau Gorfodi o ddifrif.  

Dylai tirfeddianwyr ofyn am gyngor gan Swyddogion Cynllunio’r Cyngor cyn ymgymryd â gwaith datblygu i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn groes i reoliadau cynllunio, sydd yno i ddiogelu’r Fwrdeistref Sirol a’i thrigolion”.  

Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam: “Mae rheoliadau cynllunio yn helpu i ddiogelu’r amgylchedd a’n cymunedau ac mae achosion o fynd yn groes i’r rhain yn cael eu cymryd o ddifrif. Ni fydd swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn, lle mae’n hwylus gwneud hynny.”

“Byddwn yn argymell yn gryf bod tirfeddianwyr yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith datblygu.  Gall y Tîm roi cyngor os nad ydych yn siŵr a fydd angen caniatâd cynllunio ar eich prosiect.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Windy weather Storm Éowyn
Erthygl nesaf Exterior refurbishment of Maes y Capel Cyngor Wrecsam yn cwblhau trydedd rownd o waith adnewyddu ar Dai Lloches

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadau

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English