Mae tymheredd iasoer yn debygol i aros dros y dyddiau nesaf – cymerwch ofal wrth yrru (osgoi teithio lle bo modd)…
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Gwasanaethau Amgylcheddol a Thechnegol Cyngor Wrecsam:
“Mae’r rhagolygon y tywydd diweddaraf yn awgrymu bod y tymheredd yn debygol o aros yn iasoer trwy gydol y dydd a’r nos am y dyddiau nesaf. Dylai pawb fod yn hynod ofalus wrth yrru a dylid osgoi teithiau os yw’n bosibl.
“Byddwn yn cynnal graeanu di-dor ar ein llwybrau Blaenoriaeth Un i sicrhau bod y rhain yn parhau i fod yn glir, ond dylai aelodau’r cyhoedd fod yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd yn anodd negodi unrhyw arwynebau eraill sydd heb eu trin.
“Bydd ein llwybrau graeanu Blaenoriaeth Un yn sicrhau bod prif ffyrdd, ffyrdd i’r ysgolion a llwybrau bysiau yn parhau i fod mor glir ag sy’n bosib a bydd y gwaith graeanu nawr yn ddi-dor ar y llwybrau hyn am o leiaf y dyddiau nesaf.
“Byddwch yn ymwybodol y rhagwelir y bydd aflonyddwch ar ein gwasanaethau cynlluniedig o ystyried y rhagolygon, a bydd yn effeithio ar ein hymdrechion i gasglu gwastraff ac ailgylchu.
“Gai ofyn i bawb fod yn hynod ofalus wrth fynd o gwmpas y lle dros y dyddiau nesaf wrth i ni ddod drwy’r tywydd oer yma.”