Mae grŵp lleol sy’n darparu cefnogaeth ymarferol i’r rhai sy’n ei chael yn anodd yn ariannol yn anelu i ddarparu bwyd i bob aelwyd ar draws Wrecsam sy’n ei chael yn anodd y Nadolig hwn.
Mae “Given to Shine” wedi cadarnhau fod dwy archfarchnad fawr yn Wrecsam – Aldi a Lidl – wedi cytuno i gyfrannu eu holl fwydydd sydd â dyddiad a fydd yn dod i ben yn ystod cyfnod y Nadolig er mwyn darparu cinio Nadolig. Y llynedd darparwyd bwyd ganddynt i dros 1,500 o bobl a’r gobaith yw gwneud yr un fath eleni.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Er mwyn sicrhau fod hyn yn digwydd mae angen eich cymorth arnynt.
- Mae angen mannau casglu arnynt mewn wardiau ar draws Wrecsam o tua 5pm – 10pm Noswyl Nadolig. Gall hyn fod yn siop, tafarn, eglwys neu gyfleuster cymunedol tebyg.
- Gwirfoddolwyr i helpu staff yn y mannau casglu
- Gwirfoddolwyr i godi cyflenwadau yn eu cerbydau eu hunain a’u cludo i’r mannau casglu.
- Byddai fan gydag oergell ac olwynion mawr fel Transit neu Sprinter mawr neu gerbyd tebyg yn ddelfrydol.
- Cymorth i ledaenu’r gair i’r rhai hynny a allai elwa o’r cyfraniadau fel pobl sydd wedi ymddeol, pobl ddiamddiffyn neu’r rhai hynny sydd mewn llety dros dro neu lety gwarchod.
- Nawdd neu gyfraniadau i dalu am gost y tanwydd a llogi’r cerbyd.
- Uned storio gyda thrydan a mynediad 24 awr iddi lle gallant storio eitemau sydd angen rheoli eu tymheredd a lle gellir casglu cyflenwadau bwyd er mwyn paratoi.
- Os allwch chi helpu mewn unrhyw ffordd cysylltwch drwy’r cyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda @giventoshine neu drwy e-bost giventoshine@hotmail.com
Gallwch gyfrannu ar-lein yma neu gallwch alw heibio Tŷ Pawb a gadael eich cyfraniad yn Just Deserts.
Mae gan ‘Given to Shine’ ddwy brif flaenoriaeth – gostwng gwastraff a gwrth dlodi ac maent yn mynd i’r afael â thlodi yn gynaliadwy, gan leihau gwastraff defnydd unigol ac atal eitemau diangen rhag mynd i’r domen sbwriel.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN