Mae gweithredu diwydiannol wedi cael ei alw gan Unite ac rydym ni’n disgwyl amhariad i rai o’n gwasanaethau am bythefnos o 4 Medi ymlaen.
Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yr effaith yn llawn eto, daw hynny ond i’r amlwg ar ddiwrnodau’r gweithredu.
Serch hynny, dyma’r gwasanaethau allweddol rydym ni’n credu allai gael eu heffeithio…
Gwasanaethau yn debygol o gael eu heffeithio
Casgliadau gwastraff ac ailgylchu
Mae hi’n bosibl y bydd casgliadau bin yn cael eu heffeithio gan weithredu diwydiannol a fydd yn cael ei gynnal rhwng 4 Medi a 17 Medi, ond dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn eto.
O ganlyniad, rydym ni’n gofyn i bobl roi eu biniau allan fel yr arfer ar eu diwrnodau casglu arferol, ond byddwch yn amyneddgar os na fydd rhai biniau’n cael eu gwagio.
Os nad yw’r casgliad wedi digwydd erbyn 3.30pm, ewch i gasglu eich biniau ac ailgylchu o’u man casglu os gwelwch yn dda. Ni fydd modd i ni gasglu biniau sydd wedi cael eu methu.
Fe wnawn ni ein gorau i ymateb a rheoli’r sefyllfa wrth iddi ddatblygu.
Fe fyddwn ni hefyd yn gwneud ein gorau i roi’r newyddion diweddaraf i chi drwy ein e-byst am hysbysiadau bin. Gallwch gofrestru ar gyfer yr hysbysiadau yma drwy wefan y Cyngor.
Fe fydd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, i ble y caiff deunyddiau sydd wedi’u didoli ymlaen llaw eu cymryd, ar agor fel arfer. Gwiriwch yr oriau agor.
Atgyweirio tai
Efallai y bydd rhai o’r gwasanaethau rydym ni’n eu darparu i denantiaid tai yn cael eu heffeithio – er enghraifft, ein gwasanaethau atgyweiriadau tai.
Eto, nid ydym yn gwybod beth fydd effaith hyn yn llawn eto, ond os oes angen i chi adrodd gwaith atgyweirio, byddwch yn amyneddgar, gan y gallai gymryd yn hirach nag arfer i ni ymateb.
Fe wnawn ein gorau i flaenoriaethu argyfyngau, ac fe wnawn ein gorau i ymateb i argyfyngau yn brydlon.
Glanhau strydoedd
Bydd rhai o’n hamserlenni glanhau strydoedd yn cael eu heffeithio.
Cynnal a chadw priffyrdd a thiroedd
Fe allai gwaith atgyweirio ffyrdd a chynnal a chadw tiroedd gael eu heffeithio. Fe fyddwn ni’n ceisio blaenoriaethu swyddi lle bo hynny’n bosibl.
Gwasanaethau yn annhebygol o gael eu heffeithio
Ar hyn o bryd, rydym ni’n credu na fydd mwyafrif ein gwasanaethau eraill yn cael eu heffeithio. Mae hyn yn cynnwys…
- Ysgolion – ar agor fel arfer (mae Unite wedi dweud na fydd y gweithredu diwydiannol yn targedu ysgolion)
- Llyfrgelloedd – ar agor fel arfer
- Gwasanaethau i Gwsmeriaid / Galw Wrecsam – ar agor fel arfer
- Adeiladau’r Cyngor, yn cynnwys Tŷ Pawb ac Amgueddfa Wrecsam – ar agor fel arfer
- Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref – ar agor fel arfer
- Gwasanaethau Cofrestru – ar agor fel arfer
- Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol – yn gweithredu fel arfer
- Gwasanaethau Cynllunio – yn gweithredu fel arfer
- Iechyd yr Amgylchedd – yn gweithredu fel arfer
- Amlosgfa a Mynwentydd – yn rhagweld amhariad bach iawn ar hyn o bryd.
Bydd digwyddiad The Tour of Britain yn cael ei gynnal fel y bwriad gwreiddiol ar 4 Medi.
Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Wrecsam: “Fe ddaw’r gweithredu diwydiannol gan aelodau Unite yn sgil trafodaethau cyflog cenedlaethol NJC ac nid yw’n unigryw i Wrecsam.
“Rydym wedi bod yn ceisio asesu’r effaith posibl ac fe wnawn ni bob ymdrech i geisio lleihau amhariad i bobl leol.
“Serch hynny, mewn nifer o achosion ni fyddwn ni’n gwybod y gwir effaith tan ddiwrnod y gweithredu.
“Fe wnawn ni’n reoli’r sefyllfa a’n nod fydd gadael i gwsmeriaid wybod am unrhyw newidiadau i wasanaethau.”