Wyt ti’n credu fod gen ti stori?
Methu’n glir â meddwl lle i ddechrau?
Oes gen ti syniad ac yna yn dod ar draws rhwystr?
Efallai bod yr ateb ar gael yn Llyfrgell Wrecsam! Ar 1 Tachwedd, bydd yr awdur arswyd Marie Ann Cope yno rhwng 1-2pm am sesiwn am ddim a fydd yn eich tywys drwy’r broses o gynllunio’ch nofel.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mi fydd hi’n cynnig cyngor ar ddewis enwau eich cymeriadau a’u datblygu’n bobl go iawn. Bydd hi yno i’ch helpu i gynllunio eich stori cyn rhoi’r cig ar yr asgwrn.
Bydd y sgwrs hon yn rhoi’r offer a’r ysbrydoliaeth i chi gyrraedd y bennod gyntaf.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI