Rydyn ni’n cynnal holiadur er mwyn deall profiadau siaradwyr Cymraeg lleol wrth ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor yn Gymraeg, yn ogystal ag edrych ar sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio’n ddyddiol.
Rydyn ni am gasglu gwybodaeth a barn gan ddysgwyr Cymraeg a disgyblion yn ein hysgolion Cymraeg i gael darlun ehangach o sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio yn Wrecsam. Byddwn ni’n cynnal yr holiadur hwn eto yn 2026 i gymharu’r canfyddiadau.
“Mae’r Gymraeg i bawb, felly p’un a ydych chi’n gwybod ychydig eiriau yn Gymraeg neu’n defnyddio’r Gymraeg drwy’r amser, bydd eich adborth yn hynod ddefnyddiol.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Hyrwyddwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam, “Mae’r holiadur bellach yn fyw a bydd yn cael ei gynnal tan 30 Ebrill. “Rydw i’n annog siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg i gymryd rhan. “Bydd cyfranogiad y cyhoedd yn ein helpu i wybod beth rydyn ni’n ei gael yn iawn yn ogystal ag amlygu meysydd i’w gwella.”