Mae panel o arbenigwyr Coed Cadw wedi dewis 12 o gystadleuwyr trefol diddorol ledled y DU i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Coeden y Flwyddyn 2023 – gydag un goeden ychwanegol yn cael ei dewis gan y cyhoedd.
Mae’r gystadleuaeth eleni’n canolbwyntio ar goed hynafol mewn lleoliadau trefol; mae bob un ohonynt mewn lleoliadau hygyrch ac ar gael i bobl ymweld â nhw ar unrhyw bryd yn rhad ac am ddim (mewn parciau dinas, canol trefi prysur ac ar strydoedd preswyl). Mae hanes arbennig i bob un ohonynt ac fe’u hedmygir gan drigolion lleol, yn ogystal â hynny, maent yn darparu cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan helpu i leihau llifogydd, sgrinio sŵn, darparu cysgod, hidlo llygredd aer, cynyddu gwerth eiddo a chyflwyno elfen ddiwylliannol i’n strydoedd a’n parciau.
Yng Nghymru, mae Coed Cadw wedi dewis Castanwydden Bêr ym Mharc Acton, Wrecsam ar gyfer y rhestr fer. Mae cwmpas y goeden yn 6.1m a’i huchder yn 24m, sy’n awgrymu ei bod wedi bod yn sefyll ers oddeutu 490 o flynyddoedd. Mae wedi gwrthsefyll nifer fawr o heriau yn ystod ei hanner mileniwm ar y ddaear, o ddinistrio’r parc er mwyn cael coed tân yn y 1940au yn dilyn y rhyfel, i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys yn 2021 pan gollodd nifer o’r coed amgylchynol eu canghennau neu eu chwythu i’r llawr yn llwyr. Mae’r goeden fawreddog bellach yn nodwedd bwysig o ddigwyddiadau cymunedol megis dathliadau’r parti coed eleni ac yn boblogaidd iawn ymhlith trigolion lleol yn sgil ei hanes, gwerth a’i harddwch.
Mae coed yn adnabyddus ac yn destun dathlu yn Wrecsam; mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gwneud ei ‘Haddewid Coetir’ i helpu i ddiogelu coed a choedwigoedd ar draws y fwrdeistref sirol – ac yn annog unrhyw un i ymuno, gan gynnwys busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol.
“Mae coed hynafol mewn trefi a dinasoedd yn hanfodol ar gyfer iechyd natur, pobl a’r blaned. Maent yn cynnal bywydau miloedd o rywogaethau bywyd gwyllt trefol ac yn rhoi hwb i fioamrywiaeth y DU yn ogystal â sicrhau buddion iechyd a lles diddiwedd i gymunedau”, meddai Clare Morgan, Coed Cadw.
“Mae’n wych gweld y goeden hon yn cael ei dathlu – mae hi mewn ardal boblogaidd iawn ymhlith y gymuned leol yn ogystal â chwilotwyr; a gobeithiwn y bydd pawb yng Nghymru’n cymryd rhan ac yn pleidleisio ar gyfer y goeden arbennig hon.” meddai’r Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd yng Nghyngor Wrecsam .
Anogir y cyhoedd yng Nghymru i bleidleisio ar gyfer Castanwydden Bêr Wrecsam a’i helpu i ennill y gystadleuaeth eleni; mae’r pleidleisiau ar gyfer Coeden y Flwyddyn Coed Cadw 2023 bellach ar agor a’r dyddiad cau yw dydd Sul, 15 Hydref.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, 19 Hydref ac yn mynd ymlaen i gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn Ewrop.
Gweddill y coed yn du sydd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer:
Castanwydden Bêr Parc Greenwich, Llundain
Coeden dderw fythwyrdd, Exeter, Devon
Coeden bysedd y cŵn y gadeirlan, Lichfield, Swydd Stafford
Derwen fythwyrdd wrth y llyn, Leamington Spa, Swydd Warwick
Derwen ‘Crouch Oak’, Addlestone, Surrey
Aethnen Parc Gorton, Manceinion
Derwen Grantham, Grantham, Swydd Lincoln
Llwyfen Chelsea Road, Sheffield, De Swydd Efrog
Coeden Ellyg Plymouth, Plymouth, Dyfnaint
Collen Ffrengig Porth yr Ucheldir, Perth
Derwen Belvoir, Belfast
Enwebiad y cyhoedd – Derwen fythwyrdd y llyfrgell, Westbury, Wiltshire
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch