Mae cynghorydd arweiniol wedi mynegi pryderon am gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i newid y gwasanaeth bws Traws Cymru T3, fydd yn arwain at ddileu bysiau sy’n mynd i orsaf drenau Rhiwabon ac Ysbyty Maelor.
Mae’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a’r aelod sy’n gyfrifol am Gludiant Strategol wedi ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Datblygu dros Ganolbarth, Gogledd a Chefn Gwlad Cymru i fynegi ei bryderon am yr effaith andwyol ar deithwyr yn ardal Wrecsam.
Mae’n tynnu sylw’n benodol at y diffyg ymgynghori â defnyddwyr y gwasanaeth a’r Cyngor, ond maent eisoes wedi cyhoeddi’r newid yn y gwasanaeth.
Yn ei lythyr, fe ddywedodd, “Rwyf yn arbennig o bryderus nad yw Llywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru wedi ymgynghori nac ymgysylltu ymlaen llaw i ofyn am sylwadau neu adborth gan gymunedau lleol na Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cyn cyhoeddi’r newid i’r ddarpariaeth gwasanaeth bws.
“Ni allaf ddeall y rhesymeg o ddileu’r gwasanaeth bws Traws Cymru o orsaf reilffordd Rhiwabon ac Ysbyty Maelor, pan fo’r dyheadau ar gyfer datblygiad parhaus y rhwydwaith yn y dyfodol yn seiliedig ar ddarparu cyfleoedd teithio ehangach o gwmpas canolfannau cludiant allweddol ac ardaloedd o bwys sylweddol.
Mae Ysbyty Maelor yn darparu cyfleoedd gwaith sylweddol
“Byddwch yn cytuno bod Ysbyty Maelor yn darparu cyfleoedd gwaith a darpariaeth gofal iechyd sylweddol ac mae preswylwyr a staff y tu hwnt i Fwrdeistref Sirol Wrecsam yn defnyddio cludiant cyhoeddus i gyrraedd y lleoliad allweddol hwn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Bithell ei fod, ers ysgrifennu’r llythyr, wedi cael ymateb gan Drafnidiaeth Cymru sydd wedi dweud eu bod yn edrych ar y pwyntiau a’r pryderon a godwyd.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Mynediad i Ddefnyddwyr Gorsaf Drenau Rhiwabon yn parhau i fod yn flaenoriaeth