Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymeradwywyd newidiadau arfaethedig i brisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ysgolion cynradd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cymeradwywyd newidiadau arfaethedig i brisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ysgolion cynradd
Busnes ac addysgY cyngor

Cymeradwywyd newidiadau arfaethedig i brisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ysgolion cynradd

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 7, 2024 3:32 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
The Guildhall, Wrexham
The court hearing followed a detailed investigation by Trading Standards Officers from Wrexham Council’s Public Protection service. Image shows the Guildhall in Wrexham.
RHANNU

Cymeradwywyd cynnydd arfaethedig mewn prisiau prydau ysgolion uwchradd a sesiynau chwarae ‘clwb brecwast’ ysgolion cynradd yn yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam yr wythnos hon (dydd Mawrth, 6 Chwefror).

Cynnwys
  • Prydau ysgolion uwchradd
  • Sesiynau chwarae yn y bore (ysgolion cynradd)
  • Pwysau cyllidebol sy’n wynebu’r Cyngor
  • Cymorth gyda chostau byw

Mae Cynghorau ledled y DU yn wynebu heriau cyllidebol enfawr, ac mae’r cynnydd arfaethedig ymysg y mesurau arbed arian diweddaraf a gynigir yn Wrecsam.

Prydau ysgolion uwchradd

Os cymeradwyir y newidiadau, bydd cost prydau ysgolion uwchradd yn cynyddu o £2.65 i £2.80 (bydd eitemau eraill ar y fwydlen – fel byrbrydau – hefyd yn destun cynnydd cyfwerth).

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Roedd prisiau prydau ysgolion uwchradd wedi aros yn ddigyfnewid o fis Medi 2019 i fis Medi 2023, pan gynyddodd y pris o 20c.

“Ond mae cynnydd pellach mewn costau a heriau cyllidebol yn golygu bod rhaid adolygu’r prisiau eto, gyda chynnig i gynyddu’r pris o £2.65 i £2.80 yn weithredol o’r 1 Ebrill.

“Yn anffodus ni allwn amsugno’r cynnydd parhaus mewn costau yn llawn mwyach, ond rydym wedi ceisio diogelu disgyblion a rhieni rhag effaith lawn y cynnydd mewn costau bwyd.

“Mae’r opsiwn ‘pryd y dydd’ yn parhau i gynnig gwerth da am arian a hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn mae pris pryd ysgol uwchradd yn Wrecsam yn parhau yn unol â rhai awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru.”

Sesiynau chwarae yn y bore (ysgolion cynradd)

Mae nifer o ysgolion cynradd yn Wrecsam yn cynnig brecwast am ddim mewn sesiwn chwarae yn y 30 munud cyn dechrau’r ysgol. O dan y cynigion, ni fyddwn yn codi tâl am y rhain.

Fodd bynnag, mae nifer o ysgolion yn cynnig sesiwn chwarae 30 munud ychwanegol (yn gynt) ac yn codi £2 y plentyn ar rieni.

Ond, mae costau staffio a gweinyddol cynyddol, pwysau’r gyllideb bresennol a’r ffaith nad yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyllid allanol yn golygu bod rhaid i ni adolygu ein prisiau.

O dan y newidiadau a gymeradwywyd gan Fwrdd Gweithredol, byddai’r ffi yn cynyddu i £3 fesul plentyn yn weithredol o’r 1 Ebrill (£1 ar gyfer plant sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim).

Ni fyddai’r cynnydd hwn yn effeithio ar y sesiwn brecwast 30 munud yn union cyn dechrau’r diwrnod ysgol, a fyddai’n parhau am ddim i bob plentyn.

Dywedodd y Cynghorydd Wynn: “Rydym yn gwybod bod hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfnod lle bo nifer o breswylwyr yn gweld costau’r aelwyd yn her, ac nid ydym yn ystyried y rhain ar chwarae bach.

“Ond byddai cynyddu’r ffi i £3 yn cynorthwyo i sicrhau y gall ysgolion barhau i ddarparu sesiynau chwarae ychwanegol”.

Pwysau cyllidebol sy’n wynebu’r Cyngor

Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael â phwysau cyllidebol, gyda chynigion arbed arian newydd yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd i’r Bwrdd Gweithredol.

Ynghyd â mynd i’r afael â phwysau cyllidebol yn ystod y flwyddyn, mae’r Cyngor yn gweithio ar ddiffyg o £22.6m y flwyddyn nesaf, ac eisoes wedi gorfod gwneud toriadau o dros £60m rhwng 2016 a 2020.

Mae hyn yn amlygu maint yr heriau y mae’r holl Gynghorau yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Cymorth gyda chostau byw

Os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich aelwyd, ewch i dudalennau ‘cymorth gyda chostau byw’ y Cyngor am gyngor ar unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael i chi.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd dudalen gymorth yn ymwneud â chostau byw, sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â ffynonellau o gymorth ariannol posibl.

Rhannu
Erthygl flaenorol Maelor Newidiadau i’r amserlen T3 yn codi pryderon sylweddol i deithwyr i Riwabon ac Ysbyty Maelor
Erthygl nesaf Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English