Nododd y mis diwethaf ychwanegiad newydd cyffrous at gynnig hamdden ac ymwelwyr cynyddol Wrecsam gyda lansiad Wrexham Laser Tag yn Commonwood Leisure.
Mae’r profiad newydd yn dod â gornestau tagio laser egni uchel i galon Gogledd Cymru, gan gynnig hwyl i deuluoedd, ffrindiau, grwpiau ieuenctid a thimau corfforaethol fel ei gilydd.
Mae’r prosiect wedi cael ei gefnogi gyda £15,000 o gyllid gan This is Wrecsam, drwy eu Cronfa Allweddol a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfG/SPF).
Mae’r buddsoddiad hwn wedi helpu i ddod â’r cysyniad uchelgeisiol yn fyw a chryfhau sector hamdden a thwristiaeth Wrecsam.

Dwedodd Nicola Sawford o Stori Brymbo ac aelod o fwrdd This is Wrecsam am welliant gwych y safle:
“Ers 2012, mae Commonwood wedi datblygu o fod yn bysgodfa fach i fod yn gyrchfan hamdden a glampio awyr agored sy’n arwain y sector, ac sydd wedi’i wella ymhellach nawr gydag ychwanegu’r tag laser.
“Mae’r teulu Dunn, a enillodd wobr Safle Carafanau a Gwersylla’r Flwyddyn Gogledd Cymru yn 2023, yn parhau i ddatblygu’r safle a chyfrannu’n fawr at economi dwristiaeth Wrecsam.”
Wedi’i leoli ar dir Commonwood Leisure, mae’r lleoliad yn cynnig sesiynau ar gyfer hyd at 20 chwaraewr gyda chymysgedd o ddulliau gêm gan gynnwys Brwydr Tîm, Cipio’r Faner a’r Person Olaf Ar Ei Draed.
Ar ôl y gornestau, gall gwesteion ymlacio yn yr Acorn Pizzeria and Bar ar y safle, neu ymestyn eu harhosiad gyda’r ystod o lety sydd ar gael, gan gynnwys podiau glampio moethus a chabanau teuluol helaeth wedi’u hamgylchynu gan olygfeydd cefn gwlad godidog.



Mae’r atyniad eisoes yn profi’n boblogaidd, gan groesawu teuluoedd, ysgolion a busnesau lleol sy’n chwilio am rywbeth gwahanol. Y tu hwnt i’r hwyl, mae’r prosiect yn cyfrannu at gyflogaeth leol, yn rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr ac yn gwella enw da cynyddol Wrecsam fel cyrchfan ar gyfer antur, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol.
“Dyma’r union fath o brosiect sy’n cyfleu’r hyn yw Wrecsam – dychymyg, buddsoddiad a chyfle,” ychwanegodd Nicola. “Rydym wrth ein boddau, fel This is Wrecsam, o allu chwarae rhan wrth ei helpu i dyfu.”
Dwedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Fel cyngor rydym wedi helpu i ddyrannu miliynau o bunnoedd o Gyllid Ffyniant Gyffredin y DU i brosiectau lleol, ac mae hon yn enghraifft wych arall o sut rydyn ni’n defnyddio’r gronfa i gefnogi busnesau yma yn Wrecsam.
“Mae twristiaeth yn hynod bwysig i’r fwrdeistref sirol, ac mae’n wych gweld mentrau CFfG yn helpu i gryfhau’r cynnig twristiaeth lleol.”
Mae Cronfa Allweddol This is Wrecsam wedi derbyn £150,000 gan Gyngor Wrecsam drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.


