Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Taith sgïo i Ganada yn rhoi gwefr i fyfyrwyr Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Taith sgïo i Ganada yn rhoi gwefr i fyfyrwyr Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lle

Taith sgïo i Ganada yn rhoi gwefr i fyfyrwyr Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 10, 2020 1:02 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Ice-ly does it! Canada ski trip thrills Wrexham students
RHANNU

Fis diwethaf, cafodd myfyrwyr o Ysgol Maelor yn Llannerch Banna, Wrecsam gyfle i sgïo yng nghyrchfan sgïo darluniadwy Marmot Basin ym Mharc Cenedlaethol Jasper yn Alberta, Canada.

Cynnwys
  • Trecio ac archwilio ym Maligne Canyon
  • 5 diwrnod llawn o sgïo

Fe drefnwyd y daith gan Adran Addysg Gorfforol Ysgol Maelor, i roi cyfle i ddisgyblion iau a fethodd y cyfle i fynd ar ddegfed taith yr ysgol i’r Unol Daleithiau yn 2019, gael profi’r wefr o sgïo mewn lleoliad syfrdanol.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Aeth 39 o fyfyrwyr o Flynyddoedd 9, 10 ac 11 ar y daith eithriadol o lwyddiannus i’r gyrchfan rhwng 14 – 21 Chwefror, ynghyd â phedwar aelod staff, gan fwynhau amodau oedd bron yn berffaith i sgïo.

Trecio ac archwilio ym Maligne Canyon

Treuliodd yr ieuenctid y diwrnod cyntaf yn trecio iâ ac archwilio’r rhaeadrau rhewllyd ac afonydd rhewlifol yn Maligne Canyon, sef un o anturiaethau mwyaf poblogaidd a thrawiadol Jasper.

Maligne Canyon walking! 🏔 ❄️ @maelorski @MaelorPenley #skitrip #canada #malignecanyon pic.twitter.com/Mmesiu0z21

— Maelor PE (@MaelorPE) February 16, 2020

5 diwrnod llawn o sgïo

Treuliwyd y pum diwrnod canlynol yn Jasper yn sgïo mewn amodau a thywydd oedd bron yn berffaith.

Roedd tua dau draean o’r grŵp yn ddechreuwyr llwyr, ond sylwodd y staff ar welliant mawr yng ngallu’r myfyrwyr wrth i’r daith fynd yn ei blaen.

Not beginners anymore👍⛷.
Top to bottom of the mountain today #smashed it ⁦@maelorski⁩ ⁦@MaelorPenley⁩ pic.twitter.com/FDTn18yz8X

— Maelor PE (@MaelorPE) February 19, 2020

Dywedodd Dyfan Williams, Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth yn Ysgol Maelor: “Cafodd y myfyrwyr brofiad sgïo ffantastig mewn lleoliad anhygoel. Mae nifer o fanteision ynghlwm â sgïo, ond mae hefyd yn weithgaredd nad yw’r mwyafrif o bobl yn cael ei brofi…felly roedd hi mor braf rhoi cyfle i gymaint o’n myfyrwyr gael bod yn rhan o’r daith hon”.

Dywedodd Simon Ellis, Pennaeth Ysgol Maelor: “Fel ysgol rydym yn cydnabod y rôl y mae chwaraeon yn ei chwarae, nid yn unig wrth wella iechyd corfforol myfyrwyr, ond wrth gynorthwyo â’u hiechyd meddwl, eu hysbryd, eu hyder a sgiliau cymdeithasol. Mae taith sgïo yn rhywbeth y mae pawb sy’n rhan ohono yn edrych ymlaen ato, gan ei fod yn gyfle i ffurfio perthynas agos a datblygu eich sgiliau mewn lleoliad anhygoel.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cŵn synhwyro ar Sgwâr y Frenhines Cŵn synhwyro ar Sgwâr y Frenhines
Erthygl nesaf Police crackdown on mobile phone use behind the wheel Ymgyrch yr Heddlu ar dargedu defnyddio ffôn symudol wrth yrru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English