Ice-ly does it! Canada ski trip thrills Wrexham students

Fis diwethaf, cafodd myfyrwyr o Ysgol Maelor yn Llannerch Banna, Wrecsam gyfle i sgïo yng nghyrchfan sgïo darluniadwy Marmot Basin ym Mharc Cenedlaethol Jasper yn Alberta, Canada.

Fe drefnwyd y daith gan Adran Addysg Gorfforol Ysgol Maelor, i roi cyfle i ddisgyblion iau a fethodd y cyfle i fynd ar ddegfed taith yr ysgol i’r Unol Daleithiau yn 2019, gael profi’r wefr o sgïo mewn lleoliad syfrdanol.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Aeth 39 o fyfyrwyr o Flynyddoedd 9, 10 ac 11 ar y daith eithriadol o lwyddiannus i’r gyrchfan rhwng 14 – 21 Chwefror, ynghyd â phedwar aelod staff, gan fwynhau amodau oedd bron yn berffaith i sgïo.

Trecio ac archwilio ym Maligne Canyon

Treuliodd yr ieuenctid y diwrnod cyntaf yn trecio iâ ac archwilio’r rhaeadrau rhewllyd ac afonydd rhewlifol yn Maligne Canyon, sef un o anturiaethau mwyaf poblogaidd a thrawiadol Jasper.

5 diwrnod llawn o sgïo

Treuliwyd y pum diwrnod canlynol yn Jasper yn sgïo mewn amodau a thywydd oedd bron yn berffaith.

Roedd tua dau draean o’r grŵp yn ddechreuwyr llwyr, ond sylwodd y staff ar welliant mawr yng ngallu’r myfyrwyr wrth i’r daith fynd yn ei blaen.

Dywedodd Dyfan Williams, Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth yn Ysgol Maelor: “Cafodd y myfyrwyr brofiad sgïo ffantastig mewn lleoliad anhygoel. Mae nifer o fanteision ynghlwm â sgïo, ond mae hefyd yn weithgaredd nad yw’r mwyafrif o bobl yn cael ei brofi…felly roedd hi mor braf rhoi cyfle i gymaint o’n myfyrwyr gael bod yn rhan o’r daith hon”.

Dywedodd Simon Ellis, Pennaeth Ysgol Maelor: “Fel ysgol rydym yn cydnabod y rôl y mae chwaraeon yn ei chwarae, nid yn unig wrth wella iechyd corfforol myfyrwyr, ond wrth gynorthwyo â’u hiechyd meddwl, eu hysbryd, eu hyder a sgiliau cymdeithasol. Mae taith sgïo yn rhywbeth y mae pawb sy’n rhan ohono yn edrych ymlaen ato, gan ei fod yn gyfle i ffurfio perthynas agos a datblygu eich sgiliau mewn lleoliad anhygoel.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

RYDW I EISIAU TALU RŴAN