Estynnwch eich ’sgidiau cerdded a rhowch nodyn yn y calendr at ddydd Sul, 20 Hydref gan fod taith gerdded noddedig yn yr Wyddgrug i godi arian mae mawr angen amdano ar gyfer gofalwyr GOGDdC.
Mae’r diwrnod yn cychwyn am 11am gyda thaith gerdded hyfryd trwy Barc Gwledig Loggerheads. Mae’r daith yn dechrau wrth Gaffi Florence lle gallwch ymuno â GOGDdC a chefnogwyr eraill o bob rhan o’r gymuned i helpu i wneud gwahaniaeth i fywyd gofalwyr ar draws Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.
Mae eich nawdd yn helpu GOGDdC i ddarparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i’n gofalwyr di-dâl sy’n oedolion. Darganfod mwy am y gefnogaeth maent yn ei chynnig.
Gallwch ddewis eich pellter rhwng taith o 5km (tua 3 milltir) neu daith haws o 3km (tua 1.5 milltir).
Cyn cychwyn, cofiwch fynd i nôl dŵr a byrbrydau am ddim ac yna dathlwch eich camp ar ôl dychwelyd wrth i GOGDdC anrhydeddu noddwyr hael a gofalwyr cryf, teuluoedd a ffrindiau.
Mae’n ddigwyddiad addas i deuluoedd a chŵn, felly ymunwch gyda’ch plant a’ch ffrindiau.
I gofrestru ar y daith gerdded, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at jan@newcis.org.uk
Soniwch wrth bawb am gerdded ar gyfer gofalwyr!
Am annwyl! Dewch i gwrdd â’r moch Kunekune yn ein parc gwledig (wrecsam.gov.uk)