Yn fuan bydd Wrecsam yn croesawu Tattoo Cymru – Ar y Llwyfan, sioe gerddorol fawreddog newydd yn nodi 80 mlynedd ers D-Day, yn Neuadd William Aston. Bydd y noson yn cynnwys casgliad o berfformiadau cerddorol ac arddangosiadau trawiadol.
Bydd coffáu D-Day yn ganolog i’r digwyddiad, a bydd teyrngedau a hanesion arbennig yn amlygu’r dewrder a’r aberth a wnaed yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn mewn hanes. Daw’r digwyddiad i ben gyda diweddglo teimladwy sy’n adlewyrchu gwaddol D-Day.
Bydd Tattoo Cymru yn noson ardderchog
Dywedodd Gareth Butler, y trefnydd: “Rydym wrth ein boddau cael dod â’r digwyddiad hwn i Wrecsam. Dydy Wrecsam erioed wedi ein siomi ni, ac rwy’n gobeithio y bydd digwyddiad eleni yn achlysur calonogol a myfyriol, ac yn noson i’w chofio.
“Bydd Tattoo Cymru yn noson wych. Mae’n ddathliad o gymuned, hanes, a grym oesol cerddoriaeth i uno ac ysbrydoli. Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o’r dathliad hanesyddol hwn, a fydd yn cael effaith hirhoedlog ar bawb a fydd yn bresennol.”
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Bu’r digwyddiadau blaenorol yn nosweithiau hynod lwyddiannus a theimladwy, ac mae’n briodol bod digwyddiad eleni’n amlygu’r dewrder a’r aberth a wnaed ar D-Day dros 80 mlynedd yn ôl.
“Wrth i Sul y Cofio nesáu, bydd yn deyrnged briodol i’n lluoedd arfog ac yn atgoffa’r gynulleidfa o’r aberth eithaf a wnaed ar ein rhan er mwyn i ni fedru mwynhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.” “Wrth i’n meddyliau droi at Sul y Cofio, mae hyn yn deyrnged briodol i’n lluoedd arfog ac yn atgoffa’r gynulleidfa o’r aberth eithaf a wnaed ar ein rhan er mwyn i ni fedru mwynhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.”
Bydd Tattoo Cymru yn cynnwys
- Band Cyfunol y Gwasanaethau Tân ac Achub
- Gwasanaeth Tân ac Achub Dyfnaint a Gwlad yr Haf
- Côr Meibion y Fron
- Corfflu Drymiau’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
- Band Pres Dinas Wrecsam
- Pibau a Drymiau Cymdeithas Gwarchodlu’r Alban
- Dawnswyr yr Ucheldiroedd, White Rose
- Aelodau’r Gerddorfa Delynau Ieuenctid Genedlaethol
- Arddangosiadau trawiadol o ddril manwl
- Pibau a dawnsio traddodiadol y Gororau
Lle a phryd
Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2024 – dechrau am 7:30pm
Neuadd William Aston, Prifysgol Wrecsam
Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW
Tocynnau Tattoo Cymru
- Safonol: £25
- VIP: £40 – VIP
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Masnachu am ddim ym Marchnad Wrecsam ar ddydd Llun yn ymestyn i 31 Rhagfyr!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch