Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd
Pobl a lleArall

Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd

Diweddarwyd diwethaf: Awst 30, 2023 2:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd
RHANNU

Ar drothwy tymor ysgol newydd, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn atgoffa teuluoedd i agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth heddiw i arbed hyd at £2,000 fesul plentyn ar eu biliau gofal plant blynyddol.

Gall teuluoedd ddefnyddio’u cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i dalu am unrhyw ofal plant cymeradwy gan gynnwys clybiau gwyliau, clybiau brecwast neu ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd.

Mae’r cynllun yn darparu hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd â phlant hyd at 11 oed. Os yw’r plentyn yn anabl a hyd at 16 oed, darperir hyd at £4,000 y flwyddyn. Am bob £8 sy’n cael ei dalu i gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae teuluoedd yn cael taliad atodol o £2 gan y llywodraeth yn awtomatig. Mae teuluoedd yn gallu arbed hyd at £500 bob 3 mis fesul plentyn neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl. 

“Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn cynnig cymorth ariannol”

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Mae dychwelyd i’r ysgol a threfnu gofal plant ar gyfer y tymor newydd yn gallu bod yn ddrud i deuluoedd sy’n gweithio. Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn cynnig cymorth ariannol fel y gall teuluoedd arbed arian yn sgil costau gofal plant. Chwiliwch am ‘Tax-Free Childcare’ ar GOV.UK a chofrestrwch ar-lein heddiw.”

Mae agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar-lein yn syml a gellir ei wneud mewn tua 20 munud. Gellir talu arian i mewn ar unrhyw adeg, 365 diwrnod y flwyddyn, a’i ddefnyddio ar unwaith neu bryd bynnag y bydd ei angen. Gellir codi unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio ar unrhyw adeg.

Ewch i GOV.UK i gofrestru, a dechrau arbed arian heddiw.

Mae’r llywodraeth yn cynnig help i gartrefi. Trowch at GOV.UK i ddysgu pa gymorth sydd ar gael ar gyfer costau byw, gan gynnwys help gyda chostau gofal plant.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Mae’n bosibl yr hoffech ddarllen hefyd am CThEF yn addo £5.5 miliwn o gyllid partneriaeth i roi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt 

Rhannu
Erthygl flaenorol Merchant Navy Byddwn yn codi’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol
Erthygl nesaf Gwybodaeth Sut fydd Wrecsam yn teimlo effaith y gweithredu diwydiannol ar 4 Medi?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English