Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Techniquest Glyndŵr! – Mae enw Newydd sbon ar Gartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
barbecue cooking in warm weather
Cynllunio barbeciw yn yr haul? Gwych, ond cofiwch ailgylchu
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Techniquest Glyndŵr! – Mae enw Newydd sbon ar Gartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru
Arall

Techniquest Glyndŵr! – Mae enw Newydd sbon ar Gartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2020/01/28 at 2:01 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Glyndwr Techniquest
RHANNU

Erthygl gwestai gan “Techniquest Glyndŵr”

Cynnwys
“Dywedodd Ollie Williams, Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu Techniquest Glyndŵr”“Dywedodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam”

Bu i Techniquest Glyndŵr, cartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru fabwysiadu hunaniaeth newydd wrth iddyn nhw gyheoddi eu gwedd ac enw newydd i gyd-fynd a’u cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i symud i ganol tref Wrecsam.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Yn dilyn misoedd o ymgynghori gyda miloedd o bobl ledled Gogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin, cyhoeddwyd yr enw newydd, ‘Xplore!’.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Yn ystod y cyfnod ymchwil, bu i sawl grŵp o bob cwr o’r rhanbarth, gyda llawer ohonyn nhw ddim yn ymwneud â phynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), leisio’u barn.

Cafodd rhestr o dros 200 o enwau ei gwtogi i ddim ond tri yn ystod cyfnodau olaf 2019 gyda’r cyhoedd yn pleidleisio am eu hoff deitl. Daeth ‘Xplore!’ i’r brig ymysg pobl o sawl demograffeg.

Xplore

Yn 2019, penderfynwyd ymbellhau o’r brand ‘Techniquest’ wedi sefydlu’r ganolfan yn Wrecsam gyda chefnogaeth eu canolfan gyfatebol yng Nghaerdydd. Erbyn hyn mae cyfle i’r cwmni ddatblygu eu hunaniaeth eu hunain yn dilyn cydweithio gyda Techniquest ers agor yn 2003.

Bu i’r mudiad gydweithio gyda ‘Worldspan Creative’ o Ogledd Cymru i ddatblygu’r deunydd brandio a logo newydd a chyffrous.

Bydd Gwyddoniaeth Gogledd Cymru – yr enw swyddogol dros yr elusen addysgiadol – yn parhau i fasnachu fel Techniquest Glyndŵr tra byddan nhw ar y safle cyfredol ar gampws Plas Coch Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Fodd bynnag fe fyddan nhw’n newid eu henw i ‘Xplore!’ unwaith y byddan nhw’n symud i Stryd Henblas yn hwyrach ymlaen yn 2020.

Mae hyn hefyd yn gyfle i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam i gryfhau eu presenoldeb yn y gymuned ymhellach, gyda bod Gwyddoniaeth Gogledd Cymru’n rhan annatod o’r grŵp Prifysgolion ehangach. Mae hefyd yn gyfle i Brifysgol Glyndŵr, Wrecsam gyfrannu at waith adfywio canol tref Wrecsam.

Ym mis Mehefin 2019, bu i Techniquest Glyndŵr gadarnhau eu bod yn symud i ganol tref Wrecsam ac fe ddechreuwyd gwaith ar y safle ym mis Rhagfyr. Bydd y brand newydd yn ymddangos ar bopeth yn y lleoliad newydd a bydd yn rhan gynhenid o ddyluniad mewnol ac allanol y Ganolfan Ddarganfod Gwyddoniaeth newydd sbon. Hyn i gyd er mwyn gofalu ei bod hi’n un o atyniadau mwyaf difyr a diddorol y dref.

Bu’r adeilad ar Stryd Henblas, a oedd yn siop ar un adeg, yn wag ers 2011 ond erbyn hyn bydd yn rhoi bywyd newydd i ganol Wrecsam.

Bu i’r prosiect £2.8miliwn hwn dderbyn £1.75 miliwn o gyllid grant gan y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth a £750,000 gan Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru.

Mae cynllun y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth wedi’i ariannu ar y cyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwylliannol (BEIS), Ymchwil ac Arloesi y DU a Wellcome.

Dywedodd Scot Owen, Rheolwr y Ganolfan yn Techniquest Glyndŵr:

Rydym wrth ein bodd o fedru cyflwyno ein henw a brand newydd i’r cyhoedd a oedd yn rhan allweddol o’r broses hon. Rydym wedi manteisio ar gyngor ein hymwelwyr a’r gymuned ond at hynny roedd pob cam o’r broses ar y cyd â nhw hefyd.

Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith gydag ein cynllun i symud i Stryd Henblas ac rydym bron â thorri ein bol i gwblhau’r broses yn dilyn gwaith ar ein cartref newydd yn ystod y mis diwethaf. Rydym yn rhagweld y bydd 2020 yn un o’n blynyddoedd mwyaf llwyddiannus erioed gyda llawer o newidiadau cyffrous i’n mudiad ni ond hefyd i gymuned ganol y dref hefyd.

“Dywedodd Ollie Williams, Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu Techniquest Glyndŵr”

Bu’n broses maith ac rydym ar ben ein digon gyda’r deilliant ac yn enwedig gyda’r ffordd y bu i’r cyhoedd ymateb wrth ymgynghori gyda’r gwahanol grwpiau yn yr ardal.

Bu’r newid yn fodd inni ddatblygu ein hunaniaeth a rhannu ein gwerthoedd ymhellach. Mae’r gwerthoedd hynny’n amlwg yn ein brandio fel y mudiad chwilfrydig, amrywiol a chyda’r gymuned wrth wraidd ein gwaith rydym yn ymdrechu bod. Roedd yn hanfodol bod ein credoau wrth wraidd ein hunaniaeth newydd ac rydym yn teimlo bod y brandio lliwgar a chyffrous yn adlewyrchu natur gynhwysfawr ein gwaith.

Byddwn yn cyflwyno ein henw newydd yng nghanol Wrecsam cyn bo hir felly cadwch lygaid amdano!

“Dywedodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam”

“Bu i Techniquest Glyndŵr lwyddo’n ysgubol hyd yn hyn ac mae’n wych medru bod yn rhan o’u twf a datblygiad parhaus. Mae’r ganolfan newydd yng nghanol ein tref a bydd yn help i adfywio’r ardal, addysgu pobl ynghylch STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) – tasg y mae Glyndŵr Wrecsam yn rhagori ynddi – a gofalu bod gwyddoniaeth yn hwyl a chyffrous. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld Xplore! yn datblygu ac at y lansiad yn hwyrach ymlaen eleni.”

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

COFRESTRWCH FI RŴAN

Rhannu
Erthygl flaenorol Holocaust Goroeswr yr Holocost Tomi Komoly yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Darland i rannu ei brofiadau
Erthygl nesaf budget Cyllideb Arfaethedig 20/21 yn cynnwys mwy o adnoddau ar gyfer ysgolion, gwasanaethau plant a ffyrdd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Gorffennaf 11, 2025
housing repairs van
Lleihau’r ôl-groniad atgyweiriadau yn sylweddol, gan nodi cynnydd mawr wrth ddarparu gwasanaethau i Gyngor Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
How we can recycle your garden and food waste better, safer and cleaner than before
Sut y gallwn ailgylchu eich gwastraff gardd a bwyd yn well, yn fwy diogel a glanach nag o’r blaen
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor Gorffennaf 11, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025
Arall

Arolwg Cyflwr Gofalu 2025

Gorffennaf 10, 2025
Os wyt ti wrth safle digwyddiad, paid cymryd llun i’w rannu ar-lein. Ffonia am gymorth.
Arall

Menyw ifanc yn arwain ymgyrch Rhwydwaith Trawma De Cymru i atal pobl rhag ffilmio wrth safle digwyddiad

Gorffennaf 7, 2025
Alwen Williams has been appointed as Chief Executive of the North Wales Corporate Joint Committee (CJC) – known as Ambition North Wales.
ArallBusnes ac addysg

Uchelgais Gogledd Cymru yn penodi Prif Weithredwr

Mehefin 16, 2025
'Cyfnod cyffrous i'r ddinas' wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp
ArallPobl a lle

‘Cyfnod cyffrous i’r ddinas’ wrth i atyniad ymwelwyr cenedlaethol newydd sbon Wrecsam gymryd siâp

Mehefin 12, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English