Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyllideb Arfaethedig 20/21 yn cynnwys mwy o adnoddau ar gyfer ysgolion, gwasanaethau plant a ffyrdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyllideb Arfaethedig 20/21 yn cynnwys mwy o adnoddau ar gyfer ysgolion, gwasanaethau plant a ffyrdd
Y cyngor

Cyllideb Arfaethedig 20/21 yn cynnwys mwy o adnoddau ar gyfer ysgolion, gwasanaethau plant a ffyrdd

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 28, 2020 4:08 pm
Rhannu
Darllen 0 funud
budget
RHANNU

Mae ein Bwrdd Gweithredol wedi ystyried cyllideb 2020/21 a bydd yn argymell cyllideb i’r Cyngor o £250.2 miliwn a chynnydd o 6.95% yn Nhreth y Cyngor.

Cynnwys
  • “Buddsoddi mewn gwasanaethau am y tro cyntaf mewn degawd”
  • “Setliad y gyllideb…. pobl Wrecsam yn haeddu gwell”

As everyone is aware we have been making cuts and efficiencies to our services since 2007 and services were reaching “tipping point”. Without improvements to funding from national government then critical services would begin to fall down.

“Buddsoddi mewn gwasanaethau am y tro cyntaf mewn degawd”

Darparodd y setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr gynnydd bychan i Wrecsam sy’n golygu y gellir caniatáu buddsoddi mewn gwasanaethau am y tro cyntaf mewn degawd, am y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd modd i ni roi adnoddau ychwanegol i’n blaenoriaethau sy’n cynnwys £0.5m i ysgolion, a £0.5m i ofal cymdeithasol i fynd i’r afael â’r pwysau, £1m i gynnal a chadw priffyrdd i fynd i’r afael â thyllau mewn ffyrdd, dros £1.5m i wasanaethau plant a phobl ifanc sy’n cynnwys £1m i ofal cymdeithasol plant a £0.5m i addysg i gefnogi cynlluniau gwella.

“Setliad y gyllideb…. pobl Wrecsam yn haeddu gwell”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Er ein bod yn croesawu cyllid y setliad nid ydym wedi trechu caledi o gwbl ac mae’n rhaid i ni barhau i edrych ar ein gwasanaethau a’r hyn y mae preswylwyr yn ei ddisgwyl gennym. Er bod setliad y gyllideb yn well na’r disgwyl, mae pobl Wrecsam yn haeddu gwell a byddwn yn parhau i lobïo am gyllid gwell ar gyfer gwasanaethau i’r flwyddyn nesaf”.

“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am barhau i ddarparu gwasanaethau o dan bwysau ariannol sylweddol.”

Rhybuddiodd Mark Owen, Prif Swyddog Cyllid a TGCh bod “Wrecsam yn debygol o gael Setliad is na’r cyfartaledd, nid yn y flwyddyn ariannol nesaf yn unig ond y flwyddyn ganlynol 2021/22 hefyd.

“Mae gwariant y Cyngor dros £6 miliwn yn is na’r Asesiad o Wariant Safonol (SSA) sef y swm o arian a gyfrifwyd gan Lywodraeth Cymru y mae angen i’r Awdurdod ei wario ar ei wasanaethau.

“Lefelau Band D Treth y Cyngor isaf yng Nghymru a Lloegr ”

“Efallai bod y cynnydd yn Nhreth y Cyngor a argymhellir ar gyfer 2020/21 yn edrych yn uchel, ond ni fydd yn newid sefyllfa’r Cyngor o fod yn rhan o’r grŵp o awdurdodau gyda’r lefelau isaf o ran Band D Treth y Cyngor yng Nghymru a Lloegr. Wrth edrych tua’r dyfodol mae’n rhaid i’r Cyngor symud i fyny allan o’r grŵp os yw am barhau i ddarparu’r gwasanaethau sy’n ofynnol”.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Glyndwr Techniquest Techniquest Glyndŵr! – Mae enw Newydd sbon ar Gartref Gwyddoniaeth yng Ngogledd Cymru
Erthygl nesaf Am Ddim i Rieni Am Ddim i Rieni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English