Mae Cyngor Wrecsam wedi talu teyrnged i’r cyn-gynghorydd a Chomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, a fu farw’n 59 oed.
Wedi’i fagu’n Rhosllanerchrugog, cynrychiolodd Mr Roberts Rhos a Phonciau o 1991 i 2012, ac roedd yn Faer Wrecsam o 2003 i 2004.
Daeth yn Arweinydd Cyngor Wrecsam yn 2015 ac aeth ymlaen i wasanaethu fel Aelod Cynulliad Llywodraeth Cymru o 2011 i 2016.
Yn 2019 daeth yn Gomisiynydd y Gymraeg – gan helpu i ddiogelu a hyrwyddo’r iaith ar draws Cymru gyfan.
Angerddol am Wrecsam a Chymru
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Maer Wrecsam Ronnie Prince, Arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard a’r Prif Weithredwr Ian Bancroft:
“Ar ran Cyngor Wrecsam gyfan, hoffem ymestyn ein cydymdeimladau dwysaf i deulu Aled.
“Roedd yn dad a gŵr annwyl iawn, ac yn was cyhoeddus gwych a wnaeth cymaint dros Wrecsam a Chymru.
“Bydd Aled yn cael ei gofio yma yn y cyngor fel person cynnes a chyfeillgar gyda synnwyr digrifwch gwych. Roedd bob amser yn broffesiynol, meddylgar a deallus, ac yn uchel ei barch ymysg pawb a weithiodd gyda nhw.
“Roedd hefyd yn angerddol iawn am Wrecsam a Chymru, ac yn llysgennad rhagorol i’r Gymraeg.
“Roedd yn berson gwych, a bydd ei gyn-gydweithwyr yma yn y cyngor – y cynghorwyr a’r gweithwyr – yn ei golli’n arw. Byddwn bob amser yn ei gofio.”
Bydd y baneri tu allan i Neuadd y Dref yn cael eu chwifio’n isel.