Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2022/23, efallai eich bod yn ystyried ymuno nawr ei bod yn wanwyn gyda – gobeithio – tywydd gwell rownd y gornel. Os felly, gallwch gael tua 5 mis o gasgliadau o hyd os ymunwch yn fuan.
Mae’r gwasanaeth yn costio £25 y bin ac yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch yn cofrestru tan 1 Medi, 2023, felly mae’n well cofrestru’n gynt i gael y gwerth gorau. Yn syml, gorau po gyntaf y byddwch yn ymuno er mwyn i chi gael mwy o gasgliadau.
Talu ar-lein yw’r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o bell ffordd i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, gan y gallwch ei wneud unrhyw bryd y dymunwch a dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd.
Os na allwch wneud hyn, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd ar 01978 298989 i wneud taliad cerdyn.
Gadewch 10 diwrnod i’ch sticer gyrraedd
Bydd preswylwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn sticer newydd, y bydd angen ei arddangos yn glir ar gaead eich bin. Gadewch 10 diwrnod o leiaf o’r dyddiad rydych yn cofrestru er mwyn derbyn eich pecyn sticer newydd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD