Mae Cerddoriaeth yn y Parc wedi dechrau! Mae Safle’r Seindorf Edwardaidd ym Mharc Bellevue yn cael ei ddefnyddio unwaith eto heno!
Bydd Thunderbug, band pedwar aelod, yn ymddangos yng nghyngerdd Cerddoriaeth yn y Parc ym Mharc Bellevue heno.
Mae Thunderbug yn fand sy’n canu pob math o ganeuon poblogaidd; maent yn hoff o ganu unrhyw glasur fel The Who a The Killers. Ydych chi’n hoff o Elvis? Dyma’r noson i chi; bydd y caneuon gwych yn diddanu holl gefnogwyr y King.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd Thunderbug yn camu i safle’r seindorf Edwardaidd am 7pm, felly dewch â’ch ffrindiau a phicnic i Barc Bellevue.
Mae’r cyngerdd yn agored i bob oedran felly mae’n noson wych i’r teulu cyfan (ac mae’n rhad ac am ddim, felly does dim i’w golli!)
Peidiwch ag oedi, crëwch sgwrs grŵp, ffoniwch eich cyfeillion a pharatowch ar gyfer y gig un noson yn unig!
Perfformiadau arall
Ar ôl perfformiad Thunderbug, bydd Dinosaur – band sy’n canu caneuon o’r 80au, 90au a 00au – yn perfformio ar ddydd Gwener 14 Gorffennaf
Mae’r bandiau eraill sy’n chwarae ar safle’r seindorf Edwardaidd yn cynnwys Billy Thompson Gypsy Style a Wall St Krash.
Am fanylion pellach cysylltwch â Pharc Bellevue ar 01978 264150.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL