Half Term

Nid yn aml ydyn ni’n cael cystadlu yn erbyn ein partneriaid – ond yn gynharach y mis hwn, dyna wnaeth staff y cyngor!

Chwaraeodd tîm yn cynrychioli Cyngor Wrecsam yn erbyn tîm sy’n gweithio i Freedom Leisure mewn gêm bêl droed ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Roedd y digwyddiad yn nodi tair blynedd ers i ni sefydlu partneriaeth gyda Freedom Leisure, i redeg ein canolfannau hamdden a gweithgareddau.

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Roedd y gêm yn un gyflym a sgoriwyd cyfanswm o wyth gôl, a chafwyd digon o gyfleoedd i gydweithwyr a gwylwyr ddathlu.

Sgoriodd Freedom gyda goliau cosb, ond Cyngor Wrecsam oedd yn fuddugol, gyda sgôr derfynol o 6 – 2.

Seren y gêm oedd Sam Sides, a sgoriodd dair o goliau’r cyngor.

Meddai Sam: “Roedd yn gêm wych, fe wnes i fwynhau’n fawr. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae gyda chwaraewyr profiadol da – roedden ni’n gweithio’n dda iawn fel tîm.

“Hoffwn ddiolch i swyddogion am ei drefnu, ac rwy’n edrych ymlaen at unrhyw gemau yn erbyn Freedom Leisure yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gêm rhwng ein staff a Freedom Leisure – mae gemau fel y rhain yn helpu i gadw ysbryd cydweithredol rhyngom ni a’n partneriaid.

“Rwy’n falch iawn hefyd o nodi y cafodd y gêm ei chynnal i nodi tair blynedd o weithio gyda Freedom Leisure er mwyn cynnal a gwella ein canolfannau hamdden a gweithgareddau, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda nhw yn y dyfodol.”

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN