I nifer o bobl ar draws y wlad, ac yma yn Wrecsam, mae’n ymdrech ddyddiol i roi prydau iach, rheolaidd ar y bwrdd. Mae tlodi, diffyg bwyd a newyn yn effeithio merched, dynion a phlant, ac mae’r niferoedd yn cynnwys nifer cynyddol o bobl sydd mewn gwaith.
Dyna’r rheswm ein bod yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth a chefnogaeth sydd ar gael, gan fod prinder bwyd a newyn yn gallu effeithio ar unrhyw un. #wythnosgenedlaetholdiogelu #diogeluwrecsam
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Yn 2012, agorodd Banc Bwyd Wrecsam, ac ers hynny mae wedi cynorthwyo dros 6,243 o bobl gan gynnwys 2,337 o blant ers mis Medi diwethaf a fyddai wedi mynd yn llwglyd heb eu cymorth.
Mae’r parseli yn darparu gwerth tri diwrnod o fwyd maethlon i bobl leol sydd mewn argyfwng. Gall hyn fod oherwydd colli swydd, aros am fudd-daliadau neu gyflog, salwch, dyledion, dianc rhag trais domestig, heb gymorth arian cyhoeddus neu fil mawr annisgwyl.
Yn ogystal â pharseli bwyd maent hefyd yn darparu clytiau, pethau ymolchi, bwyd i anifeiliaid anwes, cynnyrch glanhau, cyrsiau coginio a chyllidebu, gweddi a thalebau tanwydd.
Rhoddodd bron i gant o wirfoddolwyr trugarog eu hamser i gynorthwyo yn y storfa, yn un o’r naw canolfan dosbarthu neu fel gyrwyr. Mae pawb sy’n derbyn cymorth gan y banc bwyd wedi cael eu hatgyfeirio gan asiantaethau megis swyddogion tai, gweithwyr cymdeithasol, hyfforddwyr gwaith, athrawon, swyddogion CAB, a nifer o elusennau a sefydliadau ar draws Wrecsam sy’n gweithio o fewn y gymuned i gyfeirio pobl tuag at gymorth i ddod allan o argyfwng.
Dywedodd Sally Ellinson, Rheolwr Prosiect y banc bwyd: “Heb gymorth cymuned Wrecsam ni fyddwn wedi gallu cynorthwyo cymaint o bobl a hoffwn ddiolch am eu cyfraniadau gwerthfawr ers i ni agor yn 2012.
“Mae’n bwysicach nac erioed i barhau i’n cefnogi ni wrth i ni wynebu’r gaeaf a disgwyliwn mwy a mwy o alwadau am gymorth.
Gallwch ddarganfod mwy am waith y banc bwyd ar eu gwefan https://wrexham.foodbank.org.uk a darganfod sut allwch chi helpu neu sut i dderbyn cymorth.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG