Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn paratoi i ailagor caeau pêl-droed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyngor Wrecsam yn paratoi i ailagor caeau pêl-droed
Pobl a lleY cyngor

Cyngor Wrecsam yn paratoi i ailagor caeau pêl-droed

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 13, 2020 2:53 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Football
RHANNU

Yn unol â’r cynlluniau i ailgynnau pêl-droed ar lawr gwlad, bydd caeau pêl-droed Cyngor Wrecsam yn ailagor yn raddol ddydd Gwener 21 Tachwedd.

Cafodd yr holl gyfleusterau eu cau ym mis Mawrth yn unol â rheolau’r cyfnod clo ar ddechrau’r pandemig.

Rydym ni wedi penderfynu peidio â chodi tâl ar dimau sy’n defnyddio’r caeau y tymor hwn. Fodd bynnag, bydd yr holl adeiladau (e.e. ystafelloedd newid) yn parhau ar gau hyd nes clywch yn wahanol, ac ni fydd cefnogwyr yn cael dod i wylio gemau.

Mae’r broses archebu’r un fath ag o’r blaen.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Rheolau er diogelwch pawb

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae pêl-droed yn rhan fawr o’n cymunedau, ac mae ailagor y caeau yn rhoi cyfle i blant ac oedolion fwynhau’r gêm unwaith eto… yn ogystal â manteisio ar y buddion iechyd a lles sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

“Fodd bynnag, er mwyn diogelu pawb, mae’n hollbwysig bod clybiau yn cadw at y rheolau.

“Mae hyn yn golygu dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a chadw at brotocolau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.

“Gall unrhyw ymddygiad afresymol arwain at gau cae.”

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i fonitro lledaeniad y firws yn Wrecsam ac fe all gau caeau ar fyr rybudd os yw’r sefyllfa’n newid.

Cyfrifoldeb ar bawb

Meddai Mike Parry, Rheolwr Datblygu Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-Droed Cymru:

“Mae’n braf gweld Cyngor Wrecsam yn cymryd camau i helpu pobl ddychwelyd i chwarae pêl-droed yn ddiogel.

“Mae cadw at brotocolau Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn gyfrifoldeb ar bawb sy’n gysylltiedig â’r gêm. Mae’r protocolau yn nodi sut y dylai timau ddiogelu eu hunain ac eraill ac ailafael yn y gêm rydym ni oll yn ei hadnabod a’i charu.

“Mae pêl-droed yn bwysig i iechyd a lles ein cymuned a dw i’n falch iawn y gallwn ni rŵan barhau i gymryd camau bach i ddechrau chwarae unwaith eto.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Superfast Business Wales launches free Winter webinars for businesses Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn lansio gweminarau’r Gaeaf am ddim i fusnesau
Erthygl nesaf Tlodi, Bwyd a Newyn – sut i dderbyn cymorth neu sut i gynorthwyo Tlodi, Bwyd a Newyn – sut i dderbyn cymorth neu sut i gynorthwyo

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English