Mae Topwood Ltd Document Management Service ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn brif ddarparwr gwasanaethau rheoli dogfennau yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.
Mae Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, y Cyng. Nigel, wedi ymweld â’r cwmni yn ddiweddar i ddysgu sut maen nhw wedi ehangu yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf i ddod yn brif ddarparwyr datrysiadau rheoli dogfennau hyblyg yng ngogledd Cymru a dros y ffin, gyda datrysiadau sydd wedi’u teilwra i fodloni gofynion cwsmeriaid.
Sefydlwyd y cwmni yn 2002 a bu iddyn nhw symud i’r stad ddiwydiannol yn 2028, ar ôl troi hen ffactori bwyd yn gyfleuster rheoli cofnodion diogel. Erbyn heddiw maen nhw’n cyflogi 23 aelod o staff o ardal Wrecsam.
Mae ganddyn nhw nifer o achrediadau amrywiol fel ISO 9001:2015 (System Rheoli Ansawdd), ISO 27001:2013 (Diogelwch Gwybodaeth), ISO 14001:2015 (Rheoli Amgylcheddol), BS10008:2014 (Derbynioldeb Cyfreithiol Gwybodaeth Electronig), Tystysgrif Contractwr Diogel, Trwydded Cludo Gwastraff (CBDU020106), aelod o gynllun Cyber Essentials, Aelod Cofrestredig Cymdeithas Diwydiant Diogelwch Prydain (BSIA), ac maen nhw hefyd yn meddu ar Ddyfarniad Efydd Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Gwasanaethau Topwood Ltd
Mae ganddyn nhw dri pheiriant rhwygo, sy’n gallu dinistrio hyd at ddwy dunnell yr awr o wastraff cyfrinachol, deunydd pacio a deunyddiau eraill.
Maen nhw’n darparu gwasanaethau arbenigol sy’n cynnwys storio a rheoli dogfennau yn ddiogel, gwasanaeth dinistrio deunyddiau cyfrinachol sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant, ac yn gallu trawsnewid cofnodion papur yn gofnodion digidol chwiliadwy ar lwyfan cwmwl.
Ar ben hynny maen nhw hefyd yn darparu ystafell bost ddigidol a phroses awtomatiaeth/gwasanaethau prosesu archebion sy’n helpu cwsmeriaid i weithio’n fwy effeithlon ac arbed arian.
“Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol”
Meddai Simon Povey, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Topwood Ltd: “Roedd yn bleser croesawu Nigel i’n cyfleuster i ddangos ein gwaith ac i egluro ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys agor cyfleuster rhwygo dogfennau a byrnu newydd sbon danlli.
“Rydym ni’n falch iawn o’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig i ystod o sefydliadau ar draws y rhanbarth, a byddwn yn parhau i fod yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldebau amgylcheddol wrth i ni fwrw ymlaen efo’n cynlluniau.”
Meddai’r Cyng. Nigel Williams: “Roeddwn i wedi fy mhlesio’n fawr iawn gan y cyfleuster ac ymroddiad ac ymrwymiad y staff. Mae eu gwaith yn broffesiynol iawn ac maen nhw’n ystyried eu cyfrifoldebau amgylcheddol a diogelwch o ddifrif.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol ac yn edrych ymlaen at weld eu cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn ystod y misoedd nesaf.”
Mae mwy o wybodaeth am Topwood Ltd a’u gwasanaethau ar gael ar eu gwefan neu drwy eu ffonio’n uniongyrchol ar 01978 464432.