Os ydych chi’n berchen ar fusnes yn Wrecsam sydd angen trwydded eiddo gan ein Hadain Drwyddedu, sylwch fod un masnachwr wedi sôn yn ddiweddar am sgam “SMS-rwydo”* a oedd yn gofyn am arian i ddiweddaru ei drwydded.
Mae’r sgam yn dechrau gyda galwad neu neges destun gan 07799 913580 ac mae’r anfonwr yn honni mai ei enw yw Matthew O’Donnel a gofynnodd i’r masnachwr dalu £242.30 i mewn i gyfrif personol sydd yn enw Joshua Mannering.
Yn ffodus, roedd gan y masnachwr ddigon o synnwyr cyffredin i wirio’r manylion gyda’n swyddog trwyddedu, a gadarnhaodd nad oedd wedi cysylltu ac mai sgam oedd hwn, mae’n debyg.
Dywedodd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae hyn yn bryderus i fasnachwyr lleol yn Wrecsam a’n cyngor fyddai gwirio gyda’r Adran Drwyddedu bob amser cyn gwneud unrhyw daliad. Ni fyddant fyth yn ffonio neu anfon neges destun digymell yn gofyn am daliad.
“Mae twyllwyr yn dod yn gynyddol ymwybodol o sut i dwyllo pobl felly mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd trwy gysylltu ag Action Fraud.
“Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo, dylech hysbysu Action Fraud ynglŷn â hyn drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.”
Gellir cysylltu â’r Adran Drwyddedu trwy e-bost, sef licensingservice@wrexham.gov.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau am drwyddedau eiddo.
Beth yw SMS-rwydo?
SMS-rwydo yw’r arfer twyllodrus o anfon negeseuon testun sy’n honni eu bod yn dod gan gwmnïau dibynadwy er mwyn cael gwybodaeth bersonol fel cyfrineiriau neu rifau cardiau banc a fydd yn arwain at ddwyn eich arian, mae’n siŵr.
Gallwch ddysgu mwy am Drwydded Eiddo
ar ein gwefan
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gŵyl Wyddoniaeth Darganfod – dewch i weld beth sydd ar y gweill