A483

Diweddarwyd Mehefin 22, 2021

Mae’r gwaith ar lôn 2 o’r A483 rhwng cyffyrdd 5 a 6 yn dod yn ei flaen yn gynt na’r disgwyl ac felly bydd y lôn yn ail-agor o flaen yr amser a bennwyd yn wreiddiol.

Er mwyn gallu mynd â’r rheiliau diogelwch a’r offer rheoli traffig oddi yno bydd y ddwy lôn ar gau’n llwyr am ddwy noson, Mehefin 23 a 24 o 7pm tan 6am.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch fod gwaith yr asiantaeth cefnffyrdd yn dod ymlaen mor dda. Rydym yn gwerthfawrogi fod y gwaith yn peri trafferth i yrwyr, ond mae’n rhaid ei wneud er mwyn sicrhau y gallwn roi wyneb newydd sbon ar ran helaeth o’r ffordd yn nes ymlaen eleni.”

Bydd Traffig Cymru yn dechrau gwneud gwaith hanfodol ar yr A483 yn Wrecsam rhwng cyffordd 5 a 7 i gynyddu hyd 2 wrthlif cronfa ganolog ynghyd â draenio ac uwchraddio rhwystrau.

Dywedodd y Cyng David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn fydd yn caniatáu ar gyfer gwneud prif waith rhoi wyneb newydd yn ddiogel yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

“Mae’n bwysig bod yna fuddsoddiad parhaus yn ein seilwaith ffyrdd i sicrhau bod y cyswllt ffordd yma yn parhau yn y dyfodol.”

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Mae’r gwaith yn dechrau ar 1 Mehefin 2021 a threfnwyd i’w gwblhau ar 11 Gorffennaf 2021.

Mae hwn yn waith mawr a gall gyrwyr ddisgwyl amhariad.

Bydd y ffordd yn cau’n llwyr dros nos ar ddechrau ac ar ddiwedd y cynllun er mwyn gosod a thynnu systemau rhwystr dros dro yn y ddau leoliad.

Bydd y prif waith yn cael ei wneud gyda’r ail lôn ynghau i’r ddau gyfeiriad drwy gydol i gwaith.

Bydd y ffordd yn cau’n llwyr ar y dyddiadau canlynol:

1.6.21 am 19.00 i 2.6.21 am 6.00 C5 i C6 Tua’r Gogledd

2.6.21 am 19.00 i 3.6.21 am 06.00 C5 i C6 Tua’r De

3.6.21 am 19.00 i 4.6.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r De

4.6.21 am 19.00 i 5.6.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r Gogledd

7.7.21 am 19.00 i 8.7.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r Gogledd

8.7.21 am 19.00 i 8.7.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r Gogledd

9.7.21 am 19.00 i 10.7.21 am 06.00 C5 i C6 Tua’r De

11.7.21 am 19.00 i 12.7.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r De

Cau lôn 2:

2.6.21 am 06.00 i 9.7.21 am 06.00 C5 i C6 Tua’r Gogledd

3.6.21 am 06.00 i 10.7.21 am 06.00 C5 i C6 Tua’r De

4.6.21 am 06.00 i 12.7.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r De

5.6.21 am 06.00 i 8.7.21 am 06.00 C6 i C7 Tua’r Gogledd

Gwyriadau ar waith fel y dangosir yn y deiagramau canlynol:

Gwyriad A483 C6 i C7

A483

Gwyriad A483 C5 i C6

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth gallwch gysylltu â Thraffig Cymru ar 0300 123 1213 neu gael golwg ar Wasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru yn Traffig Cymru

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF